skip to Main Content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad
  • Bydd pob canolfan hamdden a llyfrgell AR GAU o 8:00am hyd 11:00am Dydd Iau, 28 Medi 2023. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Dyfeisiadau clywed newydd ym Mhwll Nofio’r Wyddgrug yn ‘declyn anhygoel’ i helpu plant i fod yn fwy hyderus yn y dŵr

Mae Tîm Nofio Aura, mewn partneriaeth â Chlwb Nofio’r Wyddgrug yn awr yn gallu cynnig dyfeisiadau clywed ym Mhwll Nofi’r Wyddgrug sy’n addas ar gyfer plant sy’n cael trafferthion â’u clyw neu sy’n gwbl fyddar.

Eglurodd Steph Bryant, Cydlynydd Nofio yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug: “Mae’r dyfeisiadau gwrando’n dderbynyddion dargludo drwy’r asgwrn sy’n gwella lledaeniad dirgryniad i’r glust. Mae nofwyr yn gwisgo’r teclyn sy’n cysylltu â set pen mae’r hyfforddwr yn ei wisg sy’n cyfathrebu drwy sianel lawrydd unffordd. Rydw i wedi defnyddio’r ddyfais fy hun ac mae’n anhygoel o glir ac yn declyn gwych ar gyfer nofwyr sy’n cael trafferth clywed. Ein gobaith ni yw y bydd defnyddio’r dyfeisiadau clywed newydd yn helpu mwy o blant i deimlo’n hyderus yn y dŵr gan ychwanegu at eu mwynhad o’u gwersi nofio.”

Mae Gracie Reynolds wedi defnyddio’r teclynnau clywed newydd yn ystod ei gwersi nofio yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug yn ddiweddar. Mae mam Gracie’n llawn canmoliaeth i’r tîm yn y ganolfan hamdden gan ddweud ei bod hi wedi gweld effaith cadarnhaol iawn ar hyder Gracie ers iddi ddefnyddio’r teclyn yn ystod gwersi. Meddai Julie: “Mae Gracie wastad wedi cael anhawster gyda’i chlyw, yn enwedig mewn mannau mawr prysur fel pyllau nofio lle mae sŵn yn atseinio. Rydw i wedi’i hannog hi i nofio erioed gan fy mod yn teimlo ei fod yn sgil bywyd pwysig iawn.

Mae Gracie’n caru nofio ac mae’r tîm yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug wedi ei chefnogi hi erioed drwy siarad yn uwch a mynd i lawr i’w lefel hi i egluro beth mae angen iddi hi ei wneud. Er hynny mae hi wastad wedi bod yn ddi-hyder oherwydd y sefyllfa gyda’i chlyw, ond yn dal i wneud cynnydd. Roeddwn wedi sylw pan oedd hi’n nofio ei bod hi bob amser yn aros i fynd olaf. Roeddwn i’n cymryd ei bod hi’n gwneud hyn er mwyn cael gweld beth oedd gweddill y dosbarth yn ei wneud yn gyntaf.

Yn ddiweddar gofynnwyd i ni a fyddai Gracie’n hoffi treialu’r dyfeisiadau clyw newydd yn y dŵr. Waw! Y tro cyntaf iddi hi ddefnyddio un roedd hi mor hapus, roedd hi’n gallu clywed bob dim ar ymyl y pwll ac yn y dŵr. Ar ôl hynny roedd hi’n gofyn o hyd pryd oedd ei gwers nofio nesaf ac a fyddai hi’n cael defnyddio’r teclyn eto.

Mae Gracie’n gyffrous dros ben rŵan pan mae hi’n ddiwrnod gwers nofio ac yn rhoi ei llaw i fyny i ofyn am gael mynd gyntaf yn lle aros yn y cefn ac aros. Mae ei hyder hi wedi cynyddu gymaint, a hynny i gyd oherwydd y cymhorthion clyw. Maen nhw’n anhygoel a gobeithio y bydd y pwll nofio’n dal ati i’w defnyddio nhw gydag unrhyw blant sy’n cael problemau fel Gracie.”

Ychwanegodd Steph: “Mae Steffan Knight, Hyfforddwr Nofio Gracie, wedi croesawu’r defnydd o’r teclynnau clywed a gall gyfathrebu’n effeithiol gyda Gracie hyd yn oed pan mae hi’n nofio ar draws y pwll, sydd yn helpu gymaint gyda’i hyder a’i chynnydd hi. Mae’r tîm cyfan wrth eu bodd gweld Gracie’n mwynhau ei gwersi nofio.”

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch drwy anfon e-bost at swim@aura.wales

Back To Top