skip to Main Content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Edrych yn ôl ar haf o sesiynau ‘Fit, Fed and Read’ gydag Aura Cymru

Ymunodd tîm Datblygu Chwaraeon Aura unwaith eto’r haf hwn gyda chydweithwyr Lyfrgelloedd Aura i ddarparu sesiynau ‘Fit Fed and Read’ i blant yng nghymuned Sir y Fflint.

Mae ‘Fit and Fed’, a grewyd gan StreetGames, yn ymgyrch genedlaethol sy’n defnyddio chwaraeon i greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc sydd dan anfantais. Nod ‘Fit and Fed’ yw creu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol, a hyrwyddo diet iach trwy ddarparu byrbrydau iach ar ddiwedd pob sesiwn. Yn 2021, penderfynodd colegau Aura ychwanegu elfen llyfrgelloedd ychwanegol at y sesiynau, sy’n canolbwyntio ar ddarllen a chreadigrwydd. Trwy gyfuno’r gweithgareddau llyfrgell a hamdden, nod y sesiynau yn y pen draw yw pwysleisio pwysigrwydd cadw meddwl, yn ogystal â chyrff, iach.

Dros wyliau’r haf, aeth tîm Aura i ymweld ag 8 lleoliad ar draws Sir y Fflint, gan weithio gyda thros 10 o asiantaethau partner i ddarparu sesiynau hwyliog. Ymunodd dros 5,400 o bobl gyda ni’r haf hwn, a darparwyd 2,875 o brydau bwyd am ddim. Cafodd dros 100 o brydau bwyd eu rhoi hefyd i loches leol ar gyfer pobl ddigartref. Gwnaeth ein gwirfoddolwyr gwych waith ardderchog hefyd, gan gyfrannu 110 awr o’u hamser.

Mynegodd Dan Williams, Cydlynydd Chwaraeon Ysgol a Chymunedol Aura, ar ran y tîm cyfan, gan ddweud: “Fe ddychwelodd ‘Fit, Fed and Read’ i Sir y Fflint dros Haf 2022 ac rydym yn hynod falch o allu darparu sesiynau’n llwyddiannus ar draws 8 safle am 5 wythnos. Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl ifanc a’u teuluoedd yn bresennol a gweld effaith gadarnhaol y sesiynau. Roedd y nifer o bobl a oedd yn bresenol ym mhob safle yn ardderchog ac roedd gwaith caled tîm Aura ac asiantaethau partner yn rhagorol. Fe wnaethom hefyd groesawu Cynghorwyr amrywiol ar draws y sir, i fynychu’r sesiynau a dysgu mwy am wasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a diwylliant Aura. Ar y cyfan, bu’n haf gwych ac rydym yn hynod falch o fod wedi gallu darparu gweithgareddau lles am ddim i’n cymuned.

Rydym yn annog y gymuned i fynd i’n gwefan ac ein dilyn ar Twitter (@aura_wales), Facebook (@walesaura) ac Instagram (@aura.wales) am ragor o wybodaeth am dîm Datblygu Charaeon Aura a’r sesiynau gwych maent yn eu cynnal i annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon am oes.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ymgyrch ‘Fit and Fed’ StreetGames, cliciwch yma.

Back To Top