skip to Main Content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad
  • Edrychwch ar ein rhaglen wych o Weithgareddau Hanner Tymor Mai yma

Effaith Aura yn Sir y Fflint ers 2017

Wrth i Aura Cymru, cartref canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a gwasanaethau treftadaeth Sir y Fflint nesáu at ei bumed blwyddyn, edrychwn yn ôl ar rai o’n huchafbwyntiau ac effaith dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Fel y gymdeithas budd cymunedol sy’n eiddo i weithwyr a sefydlwyd yn y DU, cafodd effaith Aura ei gydnabod yn genedlaethol am y tro cyntaf yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2019, ble wnaethom ennill nid yn unig y wobr Wynebu’r Defnyddiwr ond prif wobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn gyda’r panel beirniadu yn disgrifio Aura fel “enghraifft wych o sut y gall menter gymdeithasol gadw gwasanaethau gwerthfawr yn rhedeg er budd cymunedau lleol.” Mae model gweithredu elusennol Aura yn ei alluogi i gynnal gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a threftadaeth y sir am £1.5 miliwn yn llai y flwyddyn.

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae llawer o gwsmeriaid wedi estyn allan i egluro sut mae Aura wedi eu cefnogi yn eu hamrywiol gyflawniadau ffitrwydd, chwaraeon neu lyfrgell. Mae rhai wedi cyflawni amcanion anhygoel fel Heidi Rogerson, merch leol o’r Fflint sydd ar ôl cael clywed “cymaint o weithiau na fyddai byth yn gallu nofio”, wedi llwyddo a mynd drwy rhaglen Dysgu Nofio Aura i fod yn nofiwr gwych gyda breuddwyd i fod yn bencampwr Paralympaidd. Roedd un rhiant wedi diolch i Aura am helpu eu plentyn i “ddisgyn mewn cariad gyda’r gamp“, yn yr un modd roedd aelod o’r gampfa wedi mynegi eu gwerthfawrogiad i Aura am “achub” eu bywyd a’i “newid er gwell.” Mae aelodau’r gampfa sydd wedi eu hatgyfeirio i gampfa Aura a’r dosbarthiadau ffitrwydd gan eu meddyg teulu fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) hefyd wedi mynegi eu diolch i Aura, gydag un aelod yn dweud: “Cefais fy atgyfeirio i’r cynllun oherwydd fod gennyf arthritis ac roeddwn yn ei chael hi’n anodd ymdopi; roeddwn mewn llawer o boen yn ddyddiol. Rwyf wedi bod yn mynd o nerth i nerth ers hynny a bellach yn teimlo mor iach ag erioed!

Mae pob neges a dderbyniwyd wedi ysbrydoli a chymell tîm Aura i barhau i hybu pwysigrwydd iechyd corfforol a iechyd meddwl. Yn wir, un o gyflawniadau mwyaf Aura hyd yma oedd ymrwymo i ysbrydoli plant a phobl ifanc i fwynhau gweithgareddau hamdden a llyfrgell ac mewn llawer o achosion, dysgu a datblygu sgil neu angerdd oes. Mae’r tîm Nofio Aura yn darparu gwersi nofio wythnosol ar hyn o bryd i dros 2,500 o blant a phob blwyddyn, mae tua 3,000 o blant lleol yn cymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf a hwylusir gan Lyfrgelloedd Aura.

Mae tîm Datblygu Chwaraeon Aura yn parhau i geisio annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon am oes ac mae eu gwaith dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi cael effaith gadarnhaol iawn. Mae rhai enghreifftiau diweddar yn cynnwys gwyliau pêl-droed i blant o bob oed a dychwelyd sesiynau Ffit, Bwydo a Darllen sy’n cyfuno gweithgareddau chwaraeon a llyfrgell i hybu lles a chreadigrwydd. Yr haf diwethaf, roedd dros 3,300 o blant wedi mynychu sesiynau ar draws Sir y Fflint ble roedd 1,600 o brydau am ddim wedi eu darparu i hybu lles a phwysigrwydd diet iach.

Ers 2017, roedd dros £3 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn canolfannau hamdden Aura a llyfrgelloedd i wella cyfleusterau. Mae Aura wedi cofnodi dros filiwn o ymweliadau’r flwyddyn i’n canolfannau hamdden a dros 600,000 o ymweliadau y flwyddyn i’n llyfrgelloedd. Mae hyn yn adlewyrchu nid yn unig bwysigrwydd hamdden a gwasanaethau llyfrgell ond hefyd rôl maent yn ei chwarae o fewn cymunedau.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae Aura wedi cyflwyno atyniadau newydd mewn ffurf parc aer llawn hwyl – y cyntaf o’i fath yn Sir y Fflint – a pharc sglefrio dan do wedi’i ailddylunio yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Mae’r ddau barc wedi derbyn ymateb da gan y gymuned leol ac ymwelwyr ac mae’n cynrychioli uchelgais ac ymrwymiad Aura i ddarparu cyfleoedd hamdden cyffrous a dynamig i’w gymuned.

 

Yn Ebrill 2021, ymunodd Aura â Phartneriaeth Dysgu Cymunedol i Oedolion, menter a groesawyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam i ddarparu cyfleoedd dysgu oedolion i gymunedau lleol. Hyd yma, mae Aura wedi sicrhau bron i £150,000 o gyllid i ddarparu cyrsiau i gefnogi pobl i wella eu sgiliau a chreu llwybrau i gyflogaeth. Mae’r cyllid hefyd wedi galluogi Aura i wella’r amgylchedd dysgu ble darperir y cyfleoedd hyn. Hyd yma, mae Aura wedi darparu dros 200 o gyrsiau yn amrywio o Ymwybyddiaeth Ofalgar i Ddatblygu eich Sgiliau Manwerthu gyda dros 400 o ddysgwyr hŷn yn gwella eu potensial addysg a chyflogadwyedd.

Gan edrych yn ôl dros y pum mlynedd ddiwethaf, dywedodd Mrs Sara Mogel OBE, Cadeirydd Aura:

Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Aura Wales ac unrhyw sefydliad sydd wirioneddol yn credu mewn bod o fudd i’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Rydym wedi cyflawni llawer ers i ni ddechrau yn 2017, yn erbyn cefnlen o lai o adnoddau, ond yn gwybod bod yna lawer i’w wneud o ran dileu anghyfartaledd i fynediad i ddarpariaeth chwaraeon a lleihau ynysiad cymdeithasol a digidol.

Nawr, yn fwy nag erioed, yn y byd ôl-pandemig, mae iechyd meddwl a chorfforol o bwys mawr. Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan Aura yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan breswylwyr Sir y Fflint ac mae’n anochel eu bod yn parhau i ffynnu nid yn unig am y pum mlynedd nesaf ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol hefyd.

Rhannwch eich atgofion o Aura dros y pum mlynedd ddiwethaf gan ddefnyddio’r hashnod #5YearsOfAura a chysylltwch â ni drwy blatfform cyfryngau cymdeithasol: @walesaura (Facebook) @aura_wales (Twitter) ac @aura.wales (Instagram).

Back To Top