Ewch Ar-lein gydag Aura Cymru
Mae drws eich llyfrgell ar agor bob amser gyda chynllun benthyg digidol newydd Aura
Yma yn Aura Cymru, rydym yn credu y dylai llyfrgelloedd fod yn lleoedd croesawgar a chyfeillgar i’r gymuned, yn bersonol ac ar-lein. Rydym ni’n teimlo’n angerddol am ddarparu nifer o gyfleoedd i aelodau’n llyfrgell fynd ar-lein a chadw mewn cysylltiad: dyna pam rydym wrth ein bodd o gyhoeddi lansiad Cynllun Benthyg Digidol newydd.
Mae’r cynllun ar gael trwy lyfrgelloedd Aura lleol ac mae’n caniatáu i gwsmeriaid fenthyca dyfais ddigidol am ddim. Pan fyddant wedi cysylltu, bydd tîm Aura wrth law i ddarparu hyfforddiant a chyngor am sut i lywio’r byd digidol. Y nod yw cefnogi preswylwyr i ddarganfod y newidiadau cadarnhaol y gellir eu gwneud i fywyd unigolyn trwy fod ar-lein a bod mewn cysylltiad.
Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan Gronfa Trawsnewid Cymunedol Llywodraeth Cymru, a’i ddarparu mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, a gall cwsmeriaid fenthyca dyfais llechen Samsung Galaxy Tab 7 o lyfrgelloedd Aura, ynghyd â’r ategolion canlynol:
• Gwefrwr
• Cas
• Wi-Fi 4G (Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd gartref)
Bydd Aura Cymru yn helpu cwsmeriaid i:
• Feithrin sgiliau digidol a hyder i gael mynediad at wasanaethau ar-lein fel siopa a bancio’n ddiogel
• Gwneud galwadau fideo i gadw cysylltiad gyda theulu a ffrindiau
• Cael mynediad at gefnogaeth a hyfforddiant mewn nifer o ffyrdd:
Sesiynau Grŵp – cwrs hyfforddiant chwe wythnos cyfeillgar a sylfaenol ar ddyfeisiau llechen
Sesiwn Galw Heibio’r Llyfrgell – Canllawiau sylfaenol i’ch helpu i ddechrau arni yn eich llyfrgell leol
Addysg yn y Cartref – ar gyfer cwsmeriaid y Gwasanaeth Llyfrgell Cartref
Ar-lein – cael mynediad at Learn My Way neu raglenni hyfforddiant iDEA o gartref
• Cael mynediad at ein gwasanaethau Llyfrgell Ar-lein gan gynnwys eLyfrau ac eLyfraullafar am ddim
• Cael mynediad at adnoddau i hyrwyddo iechyd a lles gan gynnwys gweithgareddau a gwasanaethau ar-lein
• Rhoi cynnig arni cyn prynu – bydd dyfeisiau ar gael i chi eu prynu ar ddiwedd cyfnod y benthyciad
Dywedodd Cadeirydd Aura Cymru, Mrs. Sara Mogel OBE: “Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig fu cadw cysylltiad digidol dros y ddwy flynedd ddiweddaf. Mae rhai pobl wedi gweld eu bod wedi’u gadael ar ôl oherwydd naill ai diffyg offer neu arbenigedd. Mae Aura wrth ein bodd o allu cynnig y dechnoleg a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i bobl yn Sir y Fflint er mwyn gwella eu sgiliau digidol mewn modd diogel. Un o uchelgeisiau Aura yw bod gan ragor o bobl feddwl mwy gweithgar, a bydd y prosiect hwn yn ein helpu i gyflawni hynny.”
Er bod y dyfeisiau llechen ar gael i’w benthyca am ddim o lyfrgelloedd Aura, bydd gofyn i gyfranogwyr gytuno â Thelerau ac Amodau’r benthyciad a llenwi holiadur ar ddechrau a diwedd cyfnod y benthyciad.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn benthyg dyfais ddigidol:
• Alw i mewn i’w Llyfrgell Aura leol
• Anfon e-bost at libraries@aura.wales
• Ffonio: 01352 704400