skip to Main Content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad
  • Bydd pob canolfan hamdden a llyfrgell AR GAU o 8:00am hyd 11:00am Dydd Iau, 28 Medi 2023. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

60+ Cynllun Hamdden Actif

Mae 60+ Cynllun Hamdden Actif yn cefnogi pobl yn Sir y Fflint i fyw bywydau hirach, gwell a hapusach drwy wella lefelau gweithgarwch corfforol, hyder, cryfder a chydbwysedd.

DARLLEN MWY

BETH YW 60+ CYNLLUN HAMDDEN ACTIF?

Mae 60+ Cynllun Hamdden Actif wedi’i gyflwyno ledled Cymru i annog gweithgarwch corfforol a dewisiadau ffordd iach o fyw, ac i leihau anghydraddoldebau iechyd ac arwahanrwydd cymdeithasol ar gyfer y grŵp oedran 60+.

Mae gan Aura Cymru Swyddog Hamdden Actif 60+ penodedig sy’n gyfrifol am reoli’r cynllun yn Sir y Fflint ac am ddatblygu a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau ar draws canolfannau hamdden Aura.

Cysylltu â Swyddog Hamdden Actif 60+ Aura

Ariennir y cynllun gan Chwaraeon Cymru sydd wedi buddsoddi mwy na £1 miliwn yn genedlaethol. Eu nod yw cefnogi’r boblogaeth 60+ oed yng Nghymru i fyw bywydau hirach, gwell a hapusach drwy wella lefelau gweithgarwch corfforol, hyder, cryfder a chydbwysedd.

Mae’r meini prawf yn syml. Mae’n rhaid i chi fod:

  • Wedi cofrestru gydag Aura Cymru*
  • Yn 60 oed neu’n hŷn
  • Yn breswylydd Sir y Fflint

*Efallai na fydd angen i chi gofrestru gydag Aura Cymru ar gyfer rhai gweithgareddau a ddarperir gan bartneriaid allanol.

Mae cofrestru gydag Aura Cymru AM DDIM. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn cael Cerdyn Hamdden Aura, sy’n eich galluogi i gael mynediad i weithgareddau ein canolfan hamdden.

Dysgu mwy am gofrestru gydag Aura Cymru yma.

Mae gostyngiad ar y gweithgareddau 60+ ar hyn o bryd ac maen nhw’n amrywio o £2.00 i £6.00 y sesiwn.

Rydym hefyd yn cynnig aelodaeth debyd uniongyrchol (heb unrhyw rwymedigaeth contract) am £23.00 y mis.

AMSERLEN GWEITHGAREDDAU 60+

Diwrnod Amser Dosbarth
Dydd Mawrth 10:30 – 11:15am Nofio 60+
Diwrnod Amser Dosbarth
Dydd Llun 1:00 – 2:00pm Yr Hub – Dosbarth Lefel Isel yn y Gampfa
Dydd Mawrth 9:30 – 10:30am Gofal Cefn
Dydd Mercher 10:30 – 11:30am Sefydlogrwydd Lles
Dydd Mercher 11:30am – 12:30pm Ymarfer Lles
Dydd Iau 10:30 – 11:30am Pêl-droed Cerdded
Dydd Iau 1:00 – 2:00pm Yr Hub – Dosbarth Lefel Isel yn y Gampfa
Dydd Gwener 9:15am Ymarfer Lles
Dydd Gwener 10.30am Bore Coffi
Diwrnod Amser Dosbarth
Dydd Mercher 10:30 – 11:30am Atgofion Chwaraeon
Diwrnod Amser Dosbarth
Dydd Mawrth 10:00 – 11:00am Ymarfer Cylchol Lles
Diwrnod Amser Dosbarth
Dydd Mawrth 9:00 – 10:00am Bowls Cymdeithasol
Dydd Mawrth 10:45 – 11:45am Ymarfer Lles
Dydd Mawrth 11:45am – 12:45pm Ymarfer Lles
Dydd Iau 10:00 – 11:00am Nofio Cymdeithasol
Dydd Iau 10:45 – 11:45am Ymarfer Lles
Dydd Iau 11:45am – 12:45pm Ymarfer Lles
Dydd Iau 1:00 – 2:00pm Gofal Cefn
Dydd Iau 2:15 – 3:15pm Symudiadau Tai Chi
Dydd Gwener 9:00 – 10:00am Sesiwn Nofio
Diwrnod Amser Dosbarth
Dydd Mercher 11:30am – 12:30pm Symudiadau Tai Chi ar gyfer Lles
Dydd Sadwrn 12:00 – 1:00pm Nofio 60+
Diwrnod Amser Dosbarth
Dydd Llun 11:15am – 12:15pm Gorsaf Bad Achub y Fflint
Dydd Mercher 10:00 – 11:00am Maes Parcio Treftadaeth Etna, Bwcle
Dydd Gwener 10:30 – 11:30am Lleoliadau Amrywiol

DISGRIFIAD O'R DOSBARTHIADAU A'R GWEITHGAREDDAU 60+

BOWLS DAN DO 60+

Yn addas ar gyfer pob gallu, bydd ein hyfforddwr yn eich arwain drwy hanfodion bowlio dan do. Cewch gymdeithasu tra’n gwella eich cydsymudiad a’ch cydbwysedd a dysgu sgiliau newydd.

GOFAL CEFN

Dosbarth ymarfer corff mewn grŵp dan oruchwyliaeth sy’n addas ar gyfer pob gallu ac sy’n cael ei gynnal gan Hyfforddwr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Mae’n helpu i wella’ch ystum, rheoli cyflwr eich cefn ac adfer yr holl gyhyrau sy’n cynnal eich cefn i weithio’n iawn.

BORE COFFI

Ffordd wych o gymdeithasu heb yr ymarfer corff; dewch i fwynhau te neu goffi a sgwrs gyda phobl eraill o’r un anian i weld a allwch chi ennill y cwis wythnosol.

YR HUB - DOSBARTH LEFEL ISEL YN Y GAMPFA

Mae dosbarthiadau hub yn gwella cydsymudiad, cydbwysedd ac ymwybyddiaeth o’r corff er mwyn osgoi anafiadau diangen. Mae Hub yn canolbwyntio ar batrymau symud sydd â phwrpas, a thrwy hynny wella gallu’r corff i weithio’n effeithlon fel un uned. Nod Hub yw gwneud gweithgareddau bob dydd yn haws drwy eich helpu i fagu cryfder a hyder.

NOFIO CYMDEITHASOL

Addas ar gyfer unrhyw oedolion 60 oed neu hŷn sy’n nofwyr gwannach / nofwyr hamddenol. Bydd athro nofio wrth ochr y pwll i gefnogi unrhyw un sydd angen cymorth.

ATGOFION CHWARAEON

Mae sesiynau Atgofion Chwaraeon wedi’u hanelu at bobl 50 oed neu hŷn ac maent wedi’u cynllunio i ysgogi sgwrs, helpu i ail-fyw atgofion cadarnhaol a darparu llawenydd a chwmnïaeth. Mewn Clybiau Atgofion Chwaraeon, mae pawb yn gyfeillgar ac yn cael hwyl ac ymdeimlad cryfach o les.

TAI CHI

Mae Tai Chi yn arfer sy’n cynnwys cyfres o symudiadau ysgafn araf ac osgo corfforol gwahanol, cyflwr meddwl myfyriol, ac anadlu rheoledig. Mae’n canolbwyntio mwy ar hybu iechyd ac adsefydlu.Mae Tai Chi yn gyflwr o gydbwysedd meddyliol, corfforol ac ysbrydol; cyflwr o les ynoch chi’ch hun.

TAITH GERDDED A SGWRS

Mynd am dro yn yr awyr agored, archwilio a chroesawu popeth sydd gan Sir y Fflint i’w gynnig. Rydym yn argymell gwisgo esgidiau cyfforddus a dod â dillad glaw ysgafn rhag ofn i’r tywydd newid yn annisgwyl. Mae’r teithiau cerdded hyn yn amrywio ac rydym yn darparu ar gyfer pob lefel.

PÊL-DROED CERDDED

Erioed wedi bod eisiau dysgu hanfodion pêl-droed a dod yn fwy heini? Mae pêl-droed cerdded wedi’i anelu at gadw pobl i gymryd rhan os nad ydynt, oherwydd diffyg symudedd neu resymau eraill, yn gallu chwarae’r gêm draddodiadol. Gellir ei chwarae dan do neu yn yr awyr agored.

YMARFER CYLCHOL LLES

Dosbarth ymarfer corff llawn strwythuredig, wedi’i dargedu at gryfder a dygnwch tra’n lleihau cywasgiad. Yn addas ar gyfer pob gallu, caiff y dosbarth ei fonitro’n agos i sicrhau diogelwch, a’r ymarferion yn cael eu hegluro a’u harddangos yn glir drwyddi draw.

Back To Top