Gwersi Nofio i Oedolion – beth bynnag fo’ch oedran, beth am wella eich gallu nofio gyda Gwersi Aura Cymru i Oedolion!
Fel y gwyddom i gyd, mae nofio’n ffordd wych o gadw’n heini, gwella eich ffitrwydd aerobig ac ymlacio’r meddwl. Yn Aura Cymru, credwn nad ydych byth rhy hen i wella eich techneg strôc nofio neu ddysgu sgil newydd, a dyna pam rydym yn cynnal nifer o sesiynau nofio i oedolion, ochr yn ochr â’n rhaglen Dysgu Nofio.
Bob wythnos, rydym yn cynnal sesiynau i oedolion mewn dau bwll yng Nghanolfannau Hamdden Bwcle a’r Wyddgrug, felly p’un a ydych chi’n nofiwr nerfus sy’n dymuno gwella eich hyder yn y dŵr, neu’n driathletwr sy’n perfformio’n dda, bydd ein hyfforddwyr lefel uchaf yn eich helpu chi i gyflawni eich nodau, waeth beth fo’ch gallu. Peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig, darllenwch yr adborth gwerthfawr rydym wedi’i dderbyn gan Mr. Alan Schofield, cwsmer 63 oed a gefnogwyd yn ddiweddar gan dîm nofio’r Wyddgrug:
“Dechreuais fynd i’r ganolfan hamdden ar ddechrau 2023, gan ymuno â’r gwersi nofio i ddechreuwyr. Rwyf wedi bod yn mynychu’r gwersi er mwyn gallu dysgu sut i droedio’r dŵr yn y môr, ar gyfer fy ngwyliau yn ystod yr haf. Ar ddechrau’r gwersi, roedd gen i ofn y dŵr a doedd gen i ddim hyder.
“Mae’r siwrne gyda’r tîm – Charlotte, Danielle, Elin, Jacob a Tom – wedi bod yn wych, mae’r gefnogaeth a’r arweiniad proffesiynol rwyf wedi’i dderbyn wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder a lleddfu fy ofnau.
“Hoffwn ganmol tîm yr Wyddgrug am eu hagwedd broffesiynol a chroesawgar ac am ganiatáu i mi fwynhau fy siwrne i ddod yn nofiwr gwell.”
Os ydych chi, fel Alan, yn awyddus i wella eich gallu i nofio, ewch i www.aura.cymru/gwersi-nofio neu cysylltwch â ni trwy swim@aura.wales