Mae Pyllau Nofio Aura yn gweithredu’r Cynllun Dysgu i Nofio ‘Fframwaith Dŵr’. Mae’r cynllun arloesol yn elfen allweddol o’r cynllun cenedlaethol i helpu plant yng Nghymru i nofio’n hyderus erbyn iddynt droi’n 11 oed. Y weledigaeth yw helpu plant i fwynhau nofio a gweithgareddau yn y dŵr am weddill eu bywydau, gan arwain at genedl iachach.
Mae Fframwaith Dŵr yn cynrychioli llwybr di-dor o brofiad cyntaf baban yn y dŵr gydag oedolyn, i blant sy’n nofwyr cymwys ac â’r sgiliau i barhau â gweithgareddau dŵr am weddill eu bywydau. I gael rhagor o wybodaeth ar gynnwys y cynllun a’r meini prawf, ymwelwch â Fframwaith Dŵr
Sut ydw i’n cofrestru fy mhlentyn ar gyfer gwersi nofio?
Mae cofrestru ar gyfer gwersi yn syml. Ymwelwch ag un o’n canolfannau hamdden i siarad efo Ymgynghorydd Cwsmeriaid – a fydd yn eich helpu chi i gofrestru’ch plentyn ar y rhaglen ac yn egluro’r dewisiadau talu.
Fel arall, gallwch holi am wersi nofio drwy anfon neges i swim@aura.wales . Cofiwch nodi a hoffech chi wersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Bydd tîm Aura yn gwneud ei orau glas i ddarparu gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg ond mi fydd hyn yn dibynnu ar y galw ac argaeledd hyfforddwyr Cymraeg.
Gweld mwy o Wybodaeth am Wersi Nofio i Blant Iau, gan gynnwys Telerau ac Amodau, yma
Rydym ni’n bwriadu recriwtio athrawon nofio sy’n gallu darparu gwersi yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen gyrfaoedd yma
Padlwyr Bach gan Aura!
Yn ogystal â’n prif raglen gwersi nofio, mae Padlwyr Bach gan Aura wedi’i ddylunio yn arbennig ar gyfer babanod a phlant bach hyd at 3 oed.
Mae’r rhaglen wedi’i halinio i Nofio Cymru ac mae’n helpu i ddatblygu symudiad sylfaenol a sgiliau craidd mewn amgylchedd dŵr.
Mae manteision y cynllun newydd a chyffrous hwn yn cynnwys:
- Hyder: cyfle i’ch plentyn gael hyder mewn amgylchedd cymdeithasol, ymlaciola
- Sgiliau Newydd: cyfle i chi a’ch babi i ddysgu sgiliau newydd yn y dŵr
- Iechyd a Lles: mae nofio yn gallu helpu i ysgogi datblygiad gwybyddol eich babi ac ymarfer y galon, ysgyfaint a chyhyrau. Mae hefyd yn gallu helpu i wella patrymau cysgu, chwant ac ymddygiad
- Llwybr Dysgu Nofio: rhowch ddechrau cynnar i’ch plentyn ddechrau ar y llwybr Dysgu Nofio a gwylio eu siwrnai nofio yn datblygu wrth iddynt gynyddu eu dealltwriaeth o ddiogelwch yn ac o amgylch y dŵr a datblygu sgil bywyd
Ac wrth gwrs…
- Hwyl! Mae Padlwyr Bach gan Aura yn cynnig cyfle gwych i chi fwynhau’r dŵr gyda’ch gilydd a chreu atgofion gwerthfawr
Gallwch wybod mwy am Padlwyr Bach gan Aura drwy gysylltu â ni yn swim@aura.wales