Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Gwobr Aur Ymarferydd Therapi Harddwch i Bella Bailey o Sba Afon

“Y peth dw i’n ei fwynhau fwyaf am fy rôl yn Sba Afon yw gallu rhoi gwên ar wynebau fy nghleientiaid a’u helpu i gymryd amser allan o’u bywydau prysur a gwneud rhywbeth iddyn nhw eu hunain.”

Rydyn ni’n falch iawn o rannu newyddion gwych!

Yn ddiweddar wnaeth Bella Bailey, un o’n therapyddion harddwch bendigedig yn Sba Afon, cystadlu ac ennill cystadleuaeth fawreddog yn rowndiau terfynol Cenedlaethol ‘WorldSkills UK’. Mae Bella wedi dod â’r Fedal Aur yn ôl i Sba Afon ar ôl ennill yn y categori Ymarferydd Therapi Harddwch.

Cynhaliwyd y rowndiau terfynol rhanbarthol yn Altrincham ac roedd y rowndiau terfynol Cenedlaethol yn Blackpool.

Eglurodd Bella: “Ar gyfer y gystadleuaeth roedd yn rhaid i mi berfformio amrywiaeth o driniaethau gan gynnwys colur, tylino, triniaethau ewinedd a chyflwyniad ar ddiwrnod y rowndiau terfynol. Roedd y tasgau hefyd yn cynnwys addasiadau annisgwyl: newid modelau, er enghraifft. Mae fy rôl yn Sba Afon wedi fy helpu i gyda hyn – dw i wedi casglu llawer o sgiliau meddwl ymarferol trwy’r rôl hon ac wedi dysgu i beidio â phoeni os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd!

Roeddwn yn bendant yn nerfus yn y cyfnod cyn cystadlu ond roeddwn i wrth fy modd pan ddechreuodd y gystadleuaeth. Dw i wrth fy modd yn perfformio dan bwysau felly roedd yn amgylchedd gwych i mi. Fe wnes i roi fy holl hyfforddiant yn y cyfnod cyn y gystadleuaeth – dyma beth wnaeth fy helpu i deimlo’n barod ac yn hyderus ar y diwrnod.”

Ychwanegodd Bella hefyd: “Dw i wedi gweithio yn y diwydiant harddwch ers dros 4 blynedd bellach. Dw i’n ffodus fy mod i wedi dod o hyd i’m swydd ddelfrydol mewn therapi harddwch o oedran ifanc iawn. Dw i mor ddiolchgar bod fy nhîm yn Sba Afon wedi bod mor gefnogol trwy gydol fy mhrofiad o gystadlu.

Dw i’n teimlo’n ddiolchgar i weithio gyda thîm mor dalentog a phrofiadol sydd wedi trosglwyddo cymaint o wybodaeth i mi. Nhw oedd rhai o’r bobl gyntaf i mi sôn a rhannu’r newyddion am fy nghanlyniadau ac roedden nhw’r un mor gyffrous â mi!

Llongyfarchiadau mawr i Bella oddi wrth bawb yma yn Aura; hoffem ei llongyfarch ar y gamp wych hon.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Sba Afon yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

 

.

Back To Top