Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn mwynhau’ch profiad yn Sba Afon, hoffem dynnu’ch sylw at yr wybodaeth ganlynol.
Efallai na fydd rhai o driniaethau a chyfleusterau’r sba yn addas i bawb, a gan mai eich lles chi yw ein blaenoriaeth bennaf, rhowch wybod inni os ydych chi’n derbyn unrhyw driniaeth feddygol neu os yw un o’r cyflyrau isod yn effeithio arnoch:
- Afiechyd y galon
- Canser
- Problemau â’r afu
- Afiechyd yr arennau
- Wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar
- Heintiau ffyngaidd
- Anhwylder neu haint ar y croen
- Beichiogrwydd
- Alergedd
- Hepatitis/Aids
Rydyn ni’n deall y gall hyn gymryd amser, ond mae Sba Afon yn dilyn y canllawiau meddygon lleol a’r Good Spa Guide i sicrhau eich bod yn ddiogel ac yn gyfforddus.