Hysbysiad Preifatrwydd
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fo Hamdden a Llyfrgelloedd Aura yn casglu eich data personol.
Rydym wedi ymrwymo’n llawn i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data, yn ogystal â’ch hawliau o ran cyfrinachedd a phreifatrwydd.
Y data a gasglwn amdanoch chi
Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fath o ddata personol amdanoch chi, yn dibynnu ar y gwasanaethau rydych yn eu defnyddio.
Wrth benderfynu ar ba wybodaeth bersonol i’w chasglu, ei defnyddio a’i chadw, rydym ni’n ymroddedig i sicrhau y byddwn:
• Yn casglu, cadw a defnyddio gwybodaeth bersonol, lle bo’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny;
• Yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel a saff;
• Yn cael gwared ar unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel pan nad oes ei angen bellach;
• Yn agored gyda chi ynglŷn â sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a gyda phwy rydym yn ei rannu; ac
• Yn mabwysiadu a chynnal safonau uchel o arfer orau wrth ymdrin ag unrhyw wybodaeth bersonol.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt, cynnal cofnodion cywir, ac, os ydych chi’n cytuno, i anfon gwybodaeth farchnata atoch am ddigwyddiadau neu wasanaethau sydd gennym ni.
Sut y cesglir eich data personol?
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn cofrestru gyda ni i gael mynediad at ein gwasanaethau a chynhyrchion.
Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth pan fyddwch yn cwblhau arolygon cwsmeriaid yn wirfoddol, yn rhoi adborth ac yn cyfranogi mewn cystadlaethau.
Mae gwybodaeth am ddefnydd o wefannau’n cael ei chasglu’n defnyddio cwcis
Cwci yw ffeil sy’n gofyn am ganiatâd i’w roi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae’r cwci yn helpu i ddadansoddi traffig gwe neu’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn ein helpu ni i’ch darparu â phrofiad gwell ar y wefan – maent yn ein galluogi ni i ddeall pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydynt. Nid yw cwcis yn rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth fanwl amdanoch chi. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod y cwcis. Mae mwyafrif y porwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiadau eich porwr i wrthod cwcis os oes well gennych chi, er y gall hyn effeithio ar y ffordd mae’r safle’n gweithio.
Yn ogystal â hyn, rydym yn defnyddio cyflenwyr a all osod cwcis ar eu gwefannau eu hunain. Nid yw ein gwefan yn rheoli lledaeniad y cwcis hyn. Gwiriwch y wefan trydydd parti am fwy o wybodaeth am y rhain.
Sut rydym ni’n defnyddio eich data personol
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch i sicrhau ein bod yn gallu rhoi gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd diogel a llawn mwynhad i chi, i reoli ein cyfrifon cwsmeriaid i bob pwrpas, ac os ydych chi’n cytuno, i gysylltu â chi am gynhyrchion a gwasanaethau eraill a gynigiwn, yr ydym ni’n meddwl a fyddai o ddiddordeb i chi.
Dim ond pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn yn defnyddio eich data personol.
Yn gyffredinol, byddwn yn defnyddio eich data personol ar gyfer perfformiad contract rhyngom. Caiff ei defnyddio:
• At y diben y cafodd yr wybodaeth ei ddarparu h.y. i fod yn aelod o’r gwasanaeth llyfrgell neu ein canolfannau hamdden;
• I’n galluogi ni i gyfathrebu gyda chi, a darparu gwasanaethau diogel a phleserus i chi;
• I’n galluogi ni i reoli eich cyfrif cwsmer yn effeithiol, ac i sicrhau bod modd casglu unrhyw ffioedd allai godi fel aelod o’r llyfrgell neu’r gwasanaeth hamdden;
• I fonitro ein perfformiad yn darparu gwasanaethau i chi; ac
• I gasglu gwybodaeth ystadegol i’n galluogi i gynllunio darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol ac i’n galluogi i gasglu eich barn am ein gwasanaethau.
Llyfrgelloedd
Pan fyddwch chi’n cofrestru gyda’n gwasanaethau llyfrgell mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gadw’n ddiogel ar system rheoli llyfrgelloedd a rennir sy’n storio cofnodion y benthyciwr ar gronfa ddata. Dyma bartneriaeth rhwng awdurdodau Llyfrgelloedd Cymru. Mae ein gwasanaethau yn cydweithio i rannu costau a chynnig gwasanaethau gwell i gwsmeriaid. Dim ond at ddibenion rheoli eich defnydd llyfrgell y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio, a bydd yn cael ei ddefnyddio mewn modd sydd yn amddiffyn eich preifatrwydd.
Fe all eich data fod yn hygyrch i gyflenwyr ein systemau rheoli llyfrgelloedd hefyd. Mae’r cyflenwyr yma wedi ymrwymo i drin data yn unol â gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, a bydd ond yn gwneud hynny i’r graddau sydd ei angen er mwyn cynnal systemau rheoli’r llyfrgelloedd.
Hamdden
Pan fyddwch chi’n cofrestru gyda’n canolfannau hamdden mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gadw’n ddiogel ar system rheoli hamdden a rennir sy’n storio cofnodion y cwsmer ar gronfa ddata. Dim ond at ddibenion rheoli eich cyfrif hamdden y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio, a bydd yn cael ei ddefnyddio mewn modd sydd yn amddiffyn eich preifatrwydd.
Fe all eich data fod yn hygyrch i gyflenwyr ein systemau rheoli hamdden hefyd. Mae’r cyflenwyr yma wedi ymrwymo i drin data yn unol â gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, a bydd ond yn gwneud hynny i’r graddau sydd ei angen er mwyn cynnal systemau rheoli hamdden.
Ni fydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig yn rhannu eich gwybodaeth ar gyfer dibenion marchnata gyda chwmnïau’r tu allan i Grŵp Aura.
Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd parti, oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i wneud fel arall.
Byddwn yn sicrhau nad yw’r wybodaeth yma’n cael ei chadw’n hirach nag sy’n angenrheidiol er mwyn darparu’r gwasanaethau yma i chi. Gall eithriadau fod yn berthnasol i’r gwaith prosesu at ddibenion hanesyddol, ystadegol neu wyddonol. Os mai dyma’r achos bydd y data perthnasol yn cael ei wneud yn ddienw yn gyntaf er mwyn cael gwared ar unrhyw nodweddion adnabod.
Pan fyddwn yn cael gwared ar wybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.
Dewisiadau cyfathrebu
Cwsmeriaid sydd yn dewis optio i mewn ac yn cytuno i dderbyn gwybodaeth farchnata am ddigwyddiadau neu wasanaethau rydym ni’n eu cynnig fydd y cyntaf i glywed am:
• Wasanaethau, dosbarthiadau a gweithgareddau newydd
• Lleoedd sydd ar gael mewn sesiynau poblogaidd
• Dyddiadau talu am gyrsiau
• Cynigion arbennig a gostyngiadau
Eich hawliau cyfreithiol
Mewn amgylchiadau penodol, mae gennych chi hawliau dan gyfraith diogelu data mewn perthynas â’ch data personol:
Yr hawl i gael gwybod: I wybod pwy ydym ni, pam rydym yn dal eich gwybodaeth a sut byddwn yn ei defnyddio. Rhaid i ni egluro hyn mewn ffordd glir a synhwyrol.
Yr hawl i gael mynediad: I gael cadarnhad ein bod yn dal gwybodaeth amdanoch ac i ofyn am fynediad at yr wybodaeth honno ar unrhyw adeg.
Yr hawl i gywiro: Os yw’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, gallwch ofyn i ni ei newid.
Yr hawl i ddileu: Gallwch ofyn am gael dileu eich gwybodaeth o’n systemau, ac oni bai bod rhesymau pwysig dros ei chadw, rhaid i ni gytuno.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu: Gallwch ofyn i ni ddal swm cyfyngedig o wybodaeth amdanoch, ac nad ydym yn gwneud unrhyw beth arall gyda hi.
Yr hawl i gludadwyedd data: Gallwch ofyn i ni am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch a’i hailddefnyddio at eich dibenion eich hun.
Yr hawl i wrthwynebu: Os nad ydych yn teimlo ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth yn y ffordd gywir, yna fe allwch roi gwybod i ni.
Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio: Os ydym wedi gwneud penderfyniadau amdanoch drwy ddefnyddio systemau cyfrifiadurol neu awtomataidd nad oedd yn cynnwys unrhyw ymyrraeth ddynol, yna gallwch roi wybod i ni eich bod yn anhapus a gofyn ein bod yn adolygu’r penderfyniad.
Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd
Rydym yn parhau i adolygu ein Hysbysiad Preifatrwydd a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon.
Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Awst 2024.
Sut i gysylltu â ni
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Hysbysiad Preifatrwydd neu wybodaeth sydd gennym amdanoch:
E-bost: DPO@aura.wales
Ysgrifennwch at:
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Gorllewin Ffordd Caer
Queensferry
Sir y Fflint
Os ydych yn teimlo ar unrhyw adeg bod eich gwybodaeth wedi’i cham-drin gan Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig, yna gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) trwy www.ico.org.uk neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.