Mae’r rhan fwyaf o driniaethau Sba Afon ar gael i ddynion a menywod fel ei gilydd, ond mae gennym hefyd yr amrywiaeth isod o driniaethau sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer dynion.
Mae gennym driniaethau Decleor i ddynion, gan gynnwys:
Egni Cyflym
Fersiwn o’r Driniaeth Wyneb Egnïol Dwys wedi’i gywasgu i 30 munud. Triniaeth i adfywio croen blinedig a diflas gyda rhin rhisgl derw ac olew naws. Yn egnïol ac adfywiol.
Triniaeth Egnïol Dwys i’r Corff
Awr o driniaeth adfywiol ichi ymlacio’n llwyr a chael eich nerth yn ôl, drwy gael teimlad bendigedig o egni gyda rhin papaia ac olew naws. Diblisgio, llacio straen a rhoi egni.
Triniaeth Wyneb Egnïol Dwys
Adfywiad parhaus i roi croen pur, glân a di-straen drwy ddefnyddio rhin rhisgl derw ac olew naws. Puro, bywiogi ac adfer.