Llwyddiant i Raglen Darpariaeth Amgen Aura wrth i bobl ifanc gwblhau lefel Efydd eu Gwobr Dug Caeredin
Mae rhaglen Darpariaeth Amgen Aura yn cynnig cyfle i bobl ifanc sydd naill ai ddim mewn addysg neu sy’n dilyn amserlen ysgol lai, fynychu rhaglenni a drefnir gan Aura a chymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau a digwyddiadau. Wrth wneud hynny, maen nhw’n cael cyfle i ennill cymwysterau a fydd yn helpu datblygu eu sgiliau a’u gwneud yn fwy cyflogadwy yn y dyfodol.
Y llynedd, roedd Aura’n falch iawn o sicrhau statws Canolfan Wobr Dug Caeredin, a chanlyniad hynny oedd cofrestru grŵp o bobl ifanc o’n rhaglen darpariaeth amgen ar gyfer lefel Efydd Gwobr Dug Caeredin.
Fel rhan o’r Wobr Efydd, roedd gofyn iddyn nhw gwblhau tri mis o wirfoddoli, tri mis o weithgareddau corfforol a chwe mis yn dysgu sgil newydd, cyn cwblhau taith gerdded dros ddau ddiwrnod, gan wersylla dros nos.
Gwnaeth nifer o’r cyfranogwyr eu gwaith gwirfoddoli gydag Aura, gan helpu gyda sesiynau hyfforddi, trefnu grwpiau a chymryd cyfrifoldeb am weinyddu sesiynau. Bu i’r cyfranogwyr hefyd ddewis amrediad o weithgareddau, fel chwaraeon mewn clybiau lleol, ymuno â champfeydd Aura, cymryd rhan mewn sesiynau ffitrwydd a nofio ym mhyllau nofio Aura.
Ar ôl iddyn nhw gwblhau eu cyfnodau gwirfoddoli, eu gweithgareddau corfforol a dysgu sgil newydd, fe aethon nhw ar daith dros ddau ddiwrnod. Gan gychwyn yn Llangollen, fe gerddon nhw i Landegla ar y diwrnod cyntaf, gwersylla dros nos a pharhau ar eu taith gerdded o Landegla i’r pwynt gorffen yn Rhuthun ar yr ail ddiwrnod.
Roedd gofyn i bob cyfranogwr gario popeth y byddai ei angen arnyn nhw ar gyfer y daith gyfan, gan gynnwys pebyll, dillad, bwyd a hanfodion. Ar y daith, roedd rhaid i’r cyfranogwyr ddarllen map a chanfod eu ffordd i bob pwynt gwirio, gan weithio fel tîm i sicrhau bod y grŵp cyfan yn cwblhau’r daith gyda’i gilydd.
Eglurodd Chris Moss, Swyddog Datblygu Chwaraeon Aura Cymru: “Drwy gymryd rhan yn y sesiynau hyn, llwyddodd y cyfranogwyr i ddatblygu gwybodaeth, profi amgylcheddau a sefyllfaoedd newydd, gwneud cysylltiadau newydd, gwella eu hiechyd a’u ffitrwydd a datblygu sgiliau cymdeithasol. Bydd y profiad hwn, a’r sgiliau y maen nhw wedi’u hennill, yn agor drysau i gyfleoedd newydd iddyn nhw yn y dyfodol, yn gymdeithasol ac o ran cyflogadwyedd. Bu i un o’r cyfranogwyr fwynhau eu cyfnod o wirfoddoli gyda ni cymaint nes iddyn nhw wneud cais am swydd a chael eu recriwtio gennym ni. Mae wedi bod yn braf iawn cael eu croesawu i dîm Aura!”
Ychwanegodd Chris: “Eleni, rydym yn bwriadu cofrestru cymysgedd o grwpiau a fydd yn cynnwys dysgwyr Darpariaeth Amgen, pobl ifanc sy’n mynychu ein Canolfannau Chwaraeon Cymunedol a disgyblion ysgolion uwchradd lleol.”
Hoffai tîm cyfan Aura longyfarch pawb a lwyddodd i gwblhau lefel Efydd Gwobr Dug Caeredin yn gynharach eleni, a dymuno pob lwc iddyn nhw yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Darpariaeth Amgen Aura, anfonwch neges e-bost i christopher.moss@aura.wales