Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Llyfrau’r Flwyddyn! Hoff Lyfrau Ffuglen a Ffeithiol Aura yn 2022

Rydyn ni’n troi’r tudalennau olaf o’r flwyddyn 2022, ac yn paratoi ar gyfer pennod newydd yn y flwyddyn newydd.

Gyda hynny mewn golwg, mae’n amser i ni edrych yn ôl ar y llyfrau ffuglen a ffeithiol gwych sydd wedi’u cyhoeddi eleni. Ydi’ch hoff lyfr 2022 chi ar ein rhestr?

Mae’r holl deitlau isod yn wych yn eu ffyrdd eu hunain – o lyfrau awduron newydd i enillwyr gwobrau mawreddog, os nad ydych chi wedi dod ar draws y llyfrau isod yn barod yna beth am fynd i’ch catalog llyfrgell ar-lein i chwilio amdanynt: mae’ch hoff lyfr nesaf chi yn aros amdanoch ar ein silffoedd!

Ein 10 Uchaf o Lyfrau Ffuglen Cymraeg:
10. Darogan gan Siân Llywelyn
9. Lloerig gan Geraint Lewis
8. Bwrw Dail gan Elen Wyn
7. I’r Hen Blant Bach gan Heiddwen Tomos
6. Prawf Mot gan Bethan Gwanas
5. Y Defodau gan Rebecca Roberts
4. Cwlwm gan Ffion Enlli
3. Pumed Gainc y Mabinogi gan Peredur Glyn
2. Pridd gan Llŷr Titus
1. Capten gan Meinir Pierce Jones

Ein 10 Uchaf o Lyfrau Ffuglen Saesneg:
10. Honey & Spice gan Bolu Babalola
9. Babel: An Arcane History gan R.F. Kuang
8. Demon Copperhead gan Barbara Kingsolver
7. Shrines of Gaiety gan Kate Atkinson
6. Lessons gan Ian McEwan
5. Mad Honey gan Jennifer Finney Boylan a Jodi Picoult.
4. The Trees gan Percival Everett
3. Young Mungo gan Douglas Stuart
2. The Seven Moons of Maali Almeida gan Shehan Karunatilaka
1. The Marriage Portrait gan Maggie O’Farrell

Ein 10 Uchaf o Lyfrau Ffeithiol:
10. Sgen i’m Syniad gan Gwenllian Ellis
9. Without Warning and Only Sometimes gan Kit de Waal
8. 100 Cymru gan Dewi Prysor
7. Takeaway gan Angela Hui
6. Eigra: Hogan Fach o’r Blaena gan Eigra Lewis Roberts
5. Otherlands: A World in the Making gan Thomas Halliday
4. Burning Questions gan Margaret Atwood
3. Dychmygu Iaith gan Mererid Hopwood
2. The Transgender Issue gan Shon Faye
1. The Premonitions Bureau gan Sam Knight

Hoffem glywed gennych chi! Beth oedd eich hoff lyfr chi eleni? Gadewch i ni wybod ar y cyfryngau cymdeithasol – gallwch ddod o hyd i ni yn @LlyfrgelloeddAuraLibraries ar Facebook ac Instagram ac ar @LibFlintshire ar Twitter.

Back To Top