Cyfleoedd Dysgu yn eich Llyfrgell
Cynhelir cyrsiau 10 wythnos am ddim gan Coleg Cambria ar lythrennedd digidol i oedolion mewn llyfrgelloedd ar draws Sir y Fflint. Mae cyrsiau sylfaenol ar gyfrifiaduron a chyrsiau llechen i ddechreuwyr. Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle cysylltwch â Coleg Cambria ar 0300 30 30 007.
Mae Coleg Cambria hefyd yn darparu cyrsiau Saesneg, Mathamateg a Cyflogadwyedd yn rhai o lyfrgelloedd Sir y Fflint cysyllter â Kerry fel o’r blaen.
Canolfannau Dysgu
Mae Canolfannau Dysgu yn llyfrgelloedd y Fflint a Threffynnon. Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau cyfredol cysylltwch â’r llyfrgelloedd.
Hyfforddiant digidol Atomic
Gyda thiwtorialau hyfforddiant ar-lein yn rhad ac am ddim gan Atomic Training, gallwch ddysgu sut i yrru ebost, creu dogfennau a thaenlenni, lawrlwytho cerddoriaeth a lluniau, defnyddio llechen neu ffôn glyfar, neu greu blog.
Cyfleoedd dysgu eraill
Mae Theory Test Pro yn darparu efelychiad ar-lein realistig o brawf papur gyrru y DU. Mae’n cynnwys banc o’r cwestiynau profion swyddogol i gyd, clipiau fideo canfod peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr. Defnyddiwch eich cerdyn llyfrgell Sir y Fflint i ddefnyddio’r wefan hon.
Open University am ddim:
Open University Open Learn, Open University Future Learn
Dewiswch rywbeth o filoedd o oriau o ddeunyddiau cyrsiau Open University am ddim. Nid oes angen cerdyn llyfrgell arnoch.
Edrychwch ar amrywiaeth o Adnoddau Cyfeiriol Ar-lein sydd ar gael i aelodau llyfrgelloedd Sir y Fflint
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn cyflwynwch ymholiad (bydd hyn yn agor e-ffurflen)