Croeso i dudalennau Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir y Fflint. Nod y Gwasanaeth yw helpu pobl Sir y Fflint ac ymwelwyr â’r ardal i fwynhau dysgu am hanes y sir.
Yma, cewch wybodaeth am yr amgueddfeydd ym Mwcle, yr Wyddgrug a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon (sy’n cael ei reoli ar ran y Cyngor gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas). Mae gwybodaeth hefyd am yr adnoddau addysgol sydd ar gael i ddysgwyr o bob oed.
Tref | Enw’r Amgueddfa |
---|---|
Bwcle | Amgueddfa Bwcle |
Treffynnon | Amgueddfa Dyffryn Maes Glas |
Yr Wyddgrug | Amgueddfa Wyddgrug |