Croeso i dudalennau Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir y Fflint. Nod y Gwasanaeth yw helpu pobl Sir y Fflint ac ymwelwyr â’r ardal i fwynhau dysgu am hanes y sir.
Yma, cewch wybodaeth am yr amgueddfeydd ym Mwcle, yr Wyddgrug a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon (sy’n cael ei reoli ar ran y Cyngor gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas). Mae gwybodaeth hefyd am yr adnoddau addysgol sydd ar gael i ddysgwyr o bob oed.
Museum | Amgueddfa Bwcle |
Cyferiad 1 | Y Ganolfan Siopa |
Cyferiad 3 | Bwcle |
Cyferiad 4 | Sir y Fflint |
Cod Post | CH7 2EF |
Ffôn | 01244 549210 |
Ffacs | 01244 548850 |
Beth sydd yno? | Hanes Bwcle fel canolfan bwysig y diwydiant crochenwaith a brics o’r Oesoedd Canol hyd at yr Ugeinfed Ganrif. Mae yno arddangosfa’n dangos cynnyrch gorau’r dref, a chewch bori drwy adnoddau cyfeiriol eang hanes lleol yr ardal. |
Pris Mynediad | Rhad ac am ddim |
Oriau Agor | Llun, Mawrth, Iau a Gwener, 9.30a.m.-7.00p.m. Mercher, 9.30a.m.-5.30p.m. Sadwrn, 9.30a.m.-12.30p.m. |
Sut i gael yno | Mae’r amgueddfa yn yr un adeilad â’r llyfrgell, ym mhrif ganolfan siopa Bwcle. |
Mynd i fewn | Mae’r amgueddfa ar lawr cyntaf y llyfrgell, a gellir defnyddio lifft i’w gyrraedd. Mae modd i bobl anabl ddefnyddio’r toiled yn yr amgueddfa. Mae dolen anwytho symudol ar gael. |
Cyfleusterau | Parcio rhad ac am ddim. Toiledau. |
Casgliadau | Casgliad James Bentley |