Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol Aura:
Mae gwasanaeth llyfrgell deithio Aura yn ymweld â phentrefi ar draws Sir y Fflint bob tair wythnos lle mae’n anodd i breswylwyr gael mynediad i’n llyfrgelloedd sefydlog.
Mae gan y gwasanaeth llyfrgell deithiol rywbeth i bawb! Gall preswylwyr ddefnyddio eu cerdyn llyfrgell presennol neu ymuno â’r llyfrgell pan fyddant yn y llyfrgell deithiol. Mae’r llyfrgell deithiol yn cludo detholiad o lyfrau sy’n addas i bob oedran, gan gynnwys llyfrau print bras a llyfrau sain yn Gymraeg a Saesneg. Gellir darparu unrhyw eitem sydd mewn stoc yn unrhyw le yng Ngogledd Cymru hefyd ar gais.
Mae llyfrgell deithiol Aura yn hollol hygyrch, gyda lifft i bobl â nam symudedd. Nodwch: oherwydd y lle cyfyngedig sydd ar gael, nid yw’r llyfrgell deithiol yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn mawr â modur.
Rydym wedi adolygu’r gwasanaeth i gynnwys arosfannau newydd ac i sicrhau fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y ffordd mwyaf effeithlon. O bosib bydd y diwrnod a’r amser y darperir y gwasanaeth i rai cymunedau wedi newid. Os gwelwch yn dda erychwch ar yr amserlen i weld sut mae’r newidiadau yn eich effeithio chi.