Y Bwrdd a’r Trefniadau Llywodraethu
Mae Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig yn sefydliad elusennol, dielw sydd yn gyfrifol am reoli’r mwyafrif o ganolfannau hamdden, llyfrgelloedd ac ardaloedd chwarae yn Sir Y Fflint. Y gweithwyr sydd yn berchen ar y cwmni a’r model cyfreithiol yw Cymdeithas Budd Cymunedol. Mae cyfansoddiad Aura yn nodi bod busnes y cwmni i’w gynnal er budd y gymuned ac ddim er budd ariannol ei aelodau (gweithwyr).
Mae rheolaeth Aura yn cael ei wneud gan Fwrdd Anweithredol sydd yn cynnwys pobl proffesiynol lleol sydd wedi ymrwymo i wirfoddoli eu hamser. Nid oes cyfranddalwyr ar y Bwrdd a nid oes rhandaliadau yn cael eu talu i unrhyw un.
Sara yw Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Anweithredol Aura.
Ymddeolodd Sara o’i gwaith llawn amser fel Pennaeth Coleg Addysg Bellach yn 2013 a derbyniodd OBE am ei gwasanaeth i addysg alwedigaethol yn yr un flwyddyn.
Yn ogystal ag addysg, mae gan Sara arbenigedd mewn trefniadau llywodraethu, gwasanaethau cyhoeddus ac adnoddau dynol. Ers ymddeol mae hi hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol cymdeithas tai cymdeithasol.
Mae hi wedi bod yn byw yn Sir y Fflint ers dros 30 o flynyddoedd a chafodd ei denu i ymuno ag Aura oherwydd y gwahaniaeth cadarnhaol mae’n ei wneud i iechyd a lles pobl Sir y Fflint.
Peter yw Cadeirydd Is-Bwyllgor Archwilio a Risg Aura.
Mae Peter yn Gyfarwyddwr Grŵp Adnoddau Cartrefi Conwy, landlord cymdeithasol cofrestredig nid-er-elw annibynnol.
Mae ganddo brofiad o weithio gyda’r sector preifat a’r sector cyhoeddus a 15 mlynedd o brofiad ar lefel bwrdd.
Mae Peter yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig. Mae ei brif feysydd cyfrifoldeb yng Nghartrefi Conwy yn cynnwys cynllunio busnes, rheolaeth ariannol, llywodraethu, adnoddau dynol, yswiriant a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Ymunodd Peter ag Aura oherwydd ei frwdfrydedd a’i gefnogaeth i hamdden gymunedol a gwasanaethau llyfrgell.
Peter yw Cadeirydd Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau Aura.
Mae Peter yn weithiwr proffesiynol marchnata a chyfathrebu ac yn arbenigo mewn datblygiad economaidd, adfywio ffisegol a chymdeithasol, diwylliant, chwaraeon, twristiaeth, mewnfuddsoddi, y cyfryngau a rheoli brand, materion cyhoeddus a digwyddiadau mawr.
Bu’n Ddirprwy Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Gogledd Orllewin Lloegr ac yn aelod o Gyngor Chwaraeon Gogledd Orllewin Lloegr. Bu’n aelod o Grŵp Gwledydd a Rhanbarthau Llundain 2012, gan gynrychioli gogledd orllewin Lloegr a chadeiriodd y pwyllgor llywio ar gyfer Ras Gyfnewid y Ffagl Olympaidd.
Mae Peter yn byw yn yr Wyddgrug ac yn frwdfrydig iawn dros rôl Aura wrth ddarparu diwylliant, chwaraeon a chyfleoedd hamdden sy’n gwella iechyd meddwl a lles corfforol ein cymunedau.
Jane yw Pennaeth Datblygu Masnachol (Cynnyrch a Gwasanaethau) y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae hi wedi bod yn ymgynghorydd gwella busnes yn cefnogi prif weithredwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-reolwyr i arwain eu sefydliadau drwy fentrau newid.
Mae hi’n awyddus i helpu Aura i barhau i ddatblygu o ran cynllunio strategol, arloesi a phartneriaethau.
Mae Jane wedi bod yn byw yn Sir y Fflint y rhan fwyaf o’i bywyd ac mae effaith gwasanaethau Aura ar gymunedau yn bwysig iawn iddi.
Mae Alison yn weithiwr cyllid proffesiynol sydd wedi ennill sawl gwobr, gyda phrofiad o reoli strategol ac arweinyddiaeth ariannol. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio yn y sector preifat ar gyfer cwmni teuluol sydd â brand gemwaith moethus.
Mae hi hefyd wedi bod yn gweithio i ddarparwr tai cymdeithasol nid-er-elw, ynghyd â gwasanaethau ariannol a sefydliadau recriwtio.
Mae Alison yn frwdfrydig dros les meddyliol a chorfforol ac wedi ymrwymedig i wneud gwahaniaeth ac ychwanegu gwerth at fywydau unigolion.
Ar ôl dechrau fel gwirfoddolwr yn 2009 mae Dan bellach yn Swyddog Datblygu Hamdden yn Aura. Fel sefydliad ym mherchnogaeth y gweithwyr, Dan yw cynrychiolydd y gweithlu ar y Bwrdd ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod ‘llais’ ei gydweithwyr yn cael ei chlywed yn y broses o wneud penderfyniadau.
Mae gan Dan brofiad o raglenni dan nawdd grantiau, ynghyd â llwyth o wybodaeth am gymunedau lleol sy’n cael eu gwasanaethu gan Aura.
Mae Paul yn Gynghorydd Sir y Fflint a fo yw Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Gwydn.
Drwy gydol ei yrfa mae o wedi ymroi ei hun i wasanaethau cyhoeddus, ac wedi gweithio fel athro ysgol gynradd, swyddog addysg UNICEF UK, ac fel ymgynghorydd yn darparu cyngor ar hawliau dynol a hawliau plant.
Mae Paul yn credu’n gryf mewn tegwch, cydraddoldeb, parch a gonestrwydd, a rhain yw’r gwerthoedd mae o’n ceisio eu cynnal yn ei rôl fel aelod o fwrdd Aura.
Mae Mike wedi mwynhau gyrfa o bron i 30 o flynyddoedd fel Pennaeth Gwasanaeth Hamdden yn Sir y Fflint – gyda Chyngor Bwrdeistref Delyn i ddechrau ac yna, yn dilyn ad-drefnu’r llywodraeth leol yn 1996, gyda’r Cyngor Sir.
Mae ganddo brofiad helaeth ar draws y portffolio hamdden, yn cynnwys gyda phrosiectau cyfalaf, cyllid grant, meysydd chwarae a mannau agored, a thrwy weithio gyda phartneriaid datblygu a chynghorau chwaraeon.
Ar ôl ymddeol yn 2011 mae Mike wedi parhau i ddefnyddio cyfleusterau Aura, a hynny weithiau gyda’i wyrion, ac yn dal yn cymryd diddordeb mawr yn natblygiad a chynnydd y sefydliad.
Mae Nicki yn weithiwr proffesiynol ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu allanol, gyda thros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector gwasanaethau ariannol. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio i’r Royal London yn arbenigo mewn cysylltiadau cyhoeddus defnyddwyr a chyllid personol.
Mae Nicki yn aelod gweithgar o bwyllgor Clwb Pêl-Rwyd Glannau Dyfrdwy sy’n cwrdd yn y ganolfan hamdden yno, ac yn gyfrifol am reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol y clwb. Mae hi wedi bod yn chwarae pêl-rwyd ers oedd hi’n 11 oed ac mae hi’n eiriolwr brwdfrydig dros fuddion a gwerth ffordd egnïol o fyw a’r cyfeillgarwch sy’n mynd law yn llaw wrth rannu diddordeb a chymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae Nicki yn awyddus iawn i rannu ei brwdfrydedd dros chwaraeon a’r arbenigedd busnes mae hi wedi’i ddatblygu ar ôl blynyddoedd o weithio i sefydliadau mawr yn y DU, yn ogystal â defnyddio ei phrofiad helaeth ym maes cyfathrebu i gefnogi Aura.
Mae Ed wedi’i gyflogi fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal a Chymorth i ClwydAlyn, Cymdeithas Tai wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal â darparu arweinyddiaeth strategol i ystod eang o wasanaethau, mae Ed yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch a Diogelu.
Wedi’i eni a’i fagu yn Sir y Fflint, mae wedi bod yn gwsmer rheolaidd i Aura Cymru ers blynyddoedd ac mae’n awyddus i gefnogi twf a datblygiad parhaus ei wasanaethau. Y tu allan i’r gwaith, mae Ed yn aelod gweithredol o Glwb Rygbi’r Wyddgrug lle mae’n hyfforddi rygbi mini ar hyn o bryd.
Mae Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr dan Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014 (Rhif cofrestru 7610). Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig yw Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Gorllewin Ffordd Caer, Queensferry, Sir y Fflint, CH5 1SA.