Mae “ffynhonnell hud yn rhad ac am ddim” yn eich disgwyl yn eich llyfrgell Aura leol
Fe wnaeth Natasha Lee, un o drigolion lleol Bwcle, yn garedig iawn fynd i’r drafferth i rannu pa mor ddiolchgar oedd hi i Lyfrgelloedd Aura ar ôl ymweld â Llyfrgell Bwcle gyda’i mab, George, yn ddiweddar. Fe esboniodd: “Dim ond flwyddyn yn ôl ni fyddai fy mab ieuengaf yn mynd ati o’i wirfodd i edrych ar lyfr; roedd y syniad o ddarllen yn creu cymaint o orbryder. Er ei fod wedi cael ei ddisgrifio fel yr hyn sy’n aml yn cael ei alw’n ‘ddarllenydd amharod’, mae nawr wedi gallu dysgu sut i ddarllen, gyda chymorth rhaglen ‘Toe by Toe’ ar gyfer darllenwyr sydd angen ychydig o gefnogaeth.
Pan aethom i ymweld â Llyfrgell Bwcle yn ddiweddar fe wnaethom gyfarfod â Liz, un o gynorthwywyr llyfrgell ardderchog Aura, a eisteddodd gyda George a siarad gydag ef am ei ddiddordebau. Fe ddangosodd hi lyfrau iddo roedd hi’n ei feddwl y byddai ef yn eu mwynhau. Fe wnaethom adael y llyfrgell gyda Frankenstein gan Mary Shelley a rhai o deitlau Tom Gates hefyd: a thaniodd hynny fwy o lawenydd ar y daith hon.”
Yn fuan ar ôl cyhoeddi’r neges garedig hon am Liz, a’r gwasanaeth llyfrgell, ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth defnyddwyr eraill y llyfrgell rannu sylwadau, a llawer yn canmol Liz am ei hangerdd a’i brwdfrydedd. Yng ngeiriau un ymwelydd â’r llyfrgell: “Mae Liz yn un o drysorau tîm Aura. Amser rhigymau oedd y grŵp babi cyntaf i mi fynd iddo gyda fy mabi pan oedd yn bum wythnos oed. Mae e bron yn un oed erbyn hyn ac rydym yn dal i fwynhau mynd i’r sesiynau rhigymau. Rydym mor falch fod gennym grŵp i fynd iddo’n rhad ac am ddim.”
Yn siarad ar ran Llyfrgelloedd Aura, dywedodd Liz: “Fe wnes i fwynhau sgwrsio gyda George yn ofnadwy; mae’n fachgen hyfryd ac rwyf mor falch mod i wedi gallu ei helpu ef a’i fam i ddod o hyd i lyfrau y bydd ef yn mwynhau eu darllen gobeithio. Mae teuluoedd a phlant fel George yn gwneud ein gwaith yma yn Llyfrgelloedd Aura yn bleser ac yn fraint. Mae’r llyfrgelloedd yma ac ar agor i’r gymuned gyfan ac rydym yn gobeithio y byddwn yn annog cariad gydol oes tuag at ddarllen a’r pleser a’r hud a ddaw law yn llaw â hynny.”
Gan siarad dros bwysigrwydd gwasanaethau llyfrgelloedd, dywedodd Natasha: “Mae yna dal le sy’n ffynhonnell hud, gwybodaeth, cynhesrwydd, gobaith a chyfeillgarwch yn rhad ac am ddim, sydd ar gael i bawb; ac fe gewch chi hynny yn eich llyfrgell leol. Llyfrgelloedd yw un o’r gwasanaethau olaf i fod ar gael yn rhad ac am ddim sy’n hygyrch i bawb; gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio eich llyfrgell leol.”
Hoffem ddiolch i Natasha a George am ymweld â ni yn y llyfrgell ac am fynd i’r drafferth i gysylltu â ni i rannu eu profiad. Fe gewch groeso cynnes yn eich llyfrgell Aura leol – i gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau, wyneb yn wyneb ac ar-lein, cliciwch yma.