Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Aura yn dathlu 15 mlynedd o waith anhygoel yn Sir y Fflint
Eleni, mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn dathlu 15 mlynedd o wneud gwahaniaeth i fywydau sawl preswylydd yn Sir y Fflint. Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn gynllun ymyrraeth iechyd gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a thechnegau newid ymddygiad i gefnogi cleientiaid i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw i wella eu hiechyd a’u lles.
Yn Sir y Fflint, mae NERS yn cael ei reoli gan Aura Cymru, ac yn gweithredu o sawl safle gan gynnwys Canolfannau Hamdden Bwcle, Glannau Dyfrdwy, Pafiliwn Jade Jones y Fflint a’r Wyddgrug. Mae’r cynllun yn cynnig ystod eang o sesiynau arbenigol gan gynnwys Gofal Cefn, Tai Chi, Pêl-droed Cerdded ac Ymarfer Cylchol Lles. Mae’r holl ddosbarthiadau’n cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwys sy’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer taith iechyd a lles y cleientiaid.
Ar 8 Rhagfyr, bu i dîm NERS a’u cleientiaid ddathlu llwyddiant parhaus y cynllun gyda Pharti Nadolig yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae Aura yn cynnal digwyddiad Nadoligaidd i ddathlu twf parhaus NERS a straeon llwyddiant personol yr unigolion sy’n galluogi llwyddiant y cynllun … sef y cleientiaid! Mae eu hymroddiad yn amlwg, a’u hadborth – gweler isod – yn ysbrydoli cydweithwyr Aura yn ddyddiol.
“NERS yw’r peth gorau a wnes i erioed. Ar ôl llawdriniaeth ar fy mhen-glin a’m clun, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn yn symud yn iawn eto … rwy’n gallu reidio beic yn awr!”
“Y peth gorau wnes i oedd dechrau ar gynllun NERS. Roeddwn yn nerfus i ddechrau, ond mae wedi datblygu fy hyder.”
“Nid ymarfer corff yn unig ydyw … mae’n ganolbwynt i bawb ddod ynghyd, gwneud ffrindiau a rhannu profiadau.”
“Mae’n newid bywydau – mae’n rhoi cyfle i fynd allan a chwrdd â ffrindiau mewn amgylchiadau tebyg.”
“Mae’n rhoi cyfeillgarwch i ni … rydym yn chwerthin eto.”
“5 mlynedd yn ôl roeddwn mewn lle tywyll, wedi derbyn diagnosis o glefyd siwgr math 2 a chryd cymalau. Roeddwn yn teimlo’n isel o ran hunan-barch. Ers hynny, rwyf wedi colli 5 stôn ac yn awr yn cymryd rhan mewn marathon. Mae fy niolch i gyd yn mynd i’r cymorth a gefais gan dîm NERS i adfer ac i fy nghyfoedion yn y sesiynau am eu cefnogaeth.”
Meddai Rhian Pearce, Cydlynydd Cenedlaethol y Cynllun NERS yng Nghymru: “Mae tîm NERS Sir y Fflint wedi gwneud gwaith penigamp eleni yn cefnogi preswylwyr lleol i fod yn fwy egnïol ac iach. Rydym ni’n ddiolchgar iawn am gael tîm o staff mor brofiadol a medrus, sy’n darparu rhaglenni ymarfer corff wedi’u teilwra yn ogystal â rhoi cyfle i bobl gymdeithasu a helpu i fynd i’r afael ag unigedd. Rwy’n gobeithio bod y cleientiaid a’r staff wedi mwynhau’r Parti Nadolig, ac wedi dathlu eu llwyddiannau unigol a’u llwyddiannau ar y cyd eleni.”
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun NERS Aura, cysylltwch â yen.leung@aura.wales
Nadolig Llawen i holl gleientiaid hyfryd NERS!
Lluniau: Tîm NERS Aura yn dathlu gyda chleientiaid yn y Parti Nadolig a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr