Neges gan Dîm Sba Afon
Fel y mae llawer ohonoch yn ymwybodol yn barod, mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi ei drawsnewid yn ysbyty dros dro ar gyfer cleifion Covid-19 yn Ardal Ddwyreiniol Gogledd Cymru (Sir y Fflint a Wrecsam).
Gan fod Sba Afon wedi’i leoli yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rydym ar hyn o bryd yn methu â chynnig ein gwasanaethau wrth gefnogi’r GIG a’r Bwrdd Iechyd drwy’r cyfnod heriol hwn.
Fel tîm, hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i bob un o’n cwsmeriaid ffyddlon am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae’n anodd coelio’r sefyllfa sydd wedi bod ohoni’r Gwanwyn a’r Haf hwn ac rydym bellach yn symud i’r Hydref a’r Gaeaf heb groesawu unrhyw gwsmeriaid. Erbyn y bydd hyn i gyd drosodd bydd pobl angen cael gwared ar straen a chael y cyfle i ymlacio.
Nid oes dyddiad wedi’i gadarnhau ar gyfer ail-agor Afon Spa er ei fod yn edrych yn debyg iawn mai dechrau 2021 fydd hynny’n digwydd. Pan fyddwn ni’n dychwelyd, edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n hoff le a’ch gweld yn mwynhau ein gwasanaethau Sba, Iechyd a Harddwch rhagorol.
Gan ddymuno’r gorau i chi gyd a chadwch yn saff
gan Dîm Sba Afon
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf gan ein tîm am ddatblygiadau yn Sba Afon, newyddion a bargeinion. Cofiwch hefyd y gallwch ddilyn ein tudalennau bywiog ar Twitter a Facebook.


Manylion Cyswllt;
Ffôn; 01352 704280
Gwefan; https://aura.cymru/sba-afon
E-bost; afonspa@aura.wales
Dilynwch ni ar Facebook a Twitter; 01352 704280
Amseroedd Agor y Sba
Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am – 9pm
Dydd Sadwrn: 10am – 5pm
Dydd Sul: 10am – 5pm
Triniaethau
Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am – 8pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 9am – 5pm