‘Off Flint’: Sesiynau Galw Heibio Treftadaeth Cymunedol yn Llyfrgell Y Fflint
‘Dathlu ein tref, ein castell a’n harfordir’
Mae ‘Off Flint’ yn brosiect cyffrous newydd i gofnodi, cadw a dathlu treftadaeth gyfoethog y Fflint, ac yn benodol y dref, castell a’r arfordir.
Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu drwy’r Loteri Genedlaethol, a’i nod yw dangos a dathlu’r dref, ei hanes a phobl y Fflint.
Dywedodd Rheolwr y Llyfrgell, Susannah Hill ar ran tîm Aura: “Rydym ni’n falch ac wrth ein boddau ein bod yn cymryd rhan ym mhrosiect Off Flint a bod y llyfrgell yn ganolbwynt i archif y gymuned. Mae gan Y Fflint dreftadaeth mor gyfoethog felly mae yna lawer o straeon anhygoel sy’n aros i gael eu hadrodd!”
Rydym ni’n casglu straeon, lluniau ac arteffactau a fydd yn ffurfio sail ar gyfer archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint, fel bod y wybodaeth a gesglir yn hynod hygyrch i bawb.
Bydd hyfforddiant ar sgiliau cyfweld, cofnodi a golygu ar gael am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r prosiect.
Gweithredir y prosiect tan y gwanwyn yn 2024 felly bydd digon o amser i rannu a dathlu hanes balch y Fflint.
Ydych chi’n angerddol am dreftadaeth gyfoethog Y Fflint? Oes gennych chi stori i’w rhannu am y dref, yr arfordir neu’r castell? Os felly, mae arnom ni eisiau clywed gennych! Galwch draw i Lyfrgell y Fflint unrhyw fore Mawrth yn ystod y tymor rhwng 10.00am a 12:00pm i gyfarfod y Swyddog Treftadaeth i ddysgu mwy.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Danson, Swyddog Treftadaeth Cymunedol, ar (01352) 703042 neu e-bostiwch jo.danson@flintshire.gov.uk