Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Pêl-droed Aura wedi’i enwi fel Darparwr Pêl-droed Hwyliog y Flwyddyn ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Yn gynharach yn yr haf, cafodd Pêl-droed Aura ei enwi fel Darparwr Pêl-droed Hwyliog y Flwyddyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru a McDonald’s ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru 2022.

Rydym yn arbennig o falch o raglen Pêl-droed Aura a’n tîm arbennig o hyfforddwyr sy’n gweithio’n hynod o galed i greu brand gwych: cafodd hyn ei gydnabod ar ddau achlysur, gan y wobr hon, a hefyd yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru / Pêl-droed Lleol McDonalds 2020.

Mynegodd Gary Dixon, Prif Hyfforddwr Pêl-droed Aura ei gyffro a’i ddiolch ar ran holl dîm Aura gan ddweud: “Hoffwn ddiolch i’r holl staff hyfforddi yma yn hyfforddiant Pêl-droed Aura sydd wedi bod yn wych i weithio gyda nhw dros y flwyddyn ddiwethaf. Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl blant a rhieni sy’n mynychu ein rhaglenni pêl-droed ym mhob un o’n lleoliadau. Mae’r holl dîm yn gweithio’n hynod o galed i greu brand gwych, yn ogystal â darparu pêl-droed hwyliog o ansawdd uchel i deuluoedd yn y gymuned leol.

Ein nod yw rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc ddatblygu a dysgu sgiliau newydd mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar, a hyn oll dan arweiniad ein hyfforddwyr ymroddedig, cyfeillgar a chwbl gymwys. I gael rhagor o wybodaeth am ein sesiynau pêl-droed a’n gwersylloedd gwyliau, anfonwch e-bost at ein Prif Hyfforddwr ar aurafootball@aura.wales neu cliciwch yma 

Back To Top