Polisi Defnydd Derbyniol
Tra’n defnyddio gwasanaethau Aura rwy’n cytuno i ymddwyn mewn dull rhesymol a pheidio ag achosi na chaniatáu unrhyw ddifrod i’r offer sy’n eiddo i’r gwasanaeth. Rwy’n cytuno i beidio â newid na dileu unrhyw raglenni na ffurfweddiad ar y cyfrifiadur ac mae’n bosib y bydd angen i mi ad-dalu Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig am unrhyw gostau a godir o adfer y ffurfweddiad hwn.
Rwy’n deall fod y cyfrifiadur hwn yn gyfleuster a rennir a rhwydweithiol ac na ddylwn i adael unrhyw wybodaeth bersonol sydd wedi ei arbed, cyfrineiriau ac ati arno wrth allgofnodi. Rwyf hefyd yn deall na ddylwn i adael i unigolyn arall fewngofnodi na defnyddio cyfrifiadur gyda fy manylion cerdyn llyfrgell ac y gall methiant i gydymffurfio arwain at ganslo cofrestriad fy ngherdyn ar gyfer defnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus.
Ni all Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf fod yn gyfrifol am unrhyw ddifrod y gallaf ei ddioddef gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, golli data neu ddwyn data neu unrhyw darfu ar y gwasanaeth.
Rwy’n deall fod gan weithwyr llyfrgelloedd Aura yr hawl i dynnu’r hawl i ddefnyddio’r cyfleusterau cyfrifiadurol oddi wrth unrhyw un sy’n camddefnyddio neu yr ystyrir eu bod yn camddefnyddio’r gwasanaethau.
Ni ddefnyddiaf y rhyngrwyd ar gyfer unrhyw weithred anghyfreithlon na dosbarthu, cyhoeddi, cylchredeg, gwerthu, benthyg nag edrych ar unrhyw ddeunydd aflednais na phornograffig nac unrhyw ddeunydd yr ystyrir ei fod yn tramgwyddo, yn anweddus neu’n fygythiol o ran ei natur. Rwy’n deall fod derbyn rhaglenni teledu yn fyw wedi ei wahardd a bod yr holl ddefnydd o gyfrifiaduron a mynediad i’r rhyngrwyd yn cael ei fonitro.
Wedi’i ddiweddaru: Gorffennaf 2021