Pyllau Nofio
Mae nofio yn defnyddio holl gyhyrau’r corff, felly os ydych yn nofio broga hamddenol neu’n nofio pili-pala yn gyflym byddwch yn ymarfer eich corff cyfan. Wyddoch chi mai nofio yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o losgi calorïau?
Mae nofio rheolaidd hefyd yn wych ar gyfer lles cyffredinol gan leihau lefelau straen, lleihau pryder ac iselder, a gwella eich patrwm cysgu. Mae’n un o’r ffyrdd gorau i gadw’n heini ac iach, cynyddu eich lefelau egni a chynnal agwedd cadarnhaol. Mae gwneud hyn gyda ffrindiau yn hyd yn oed fwy o hwyl!