Rhaglen Aml-chwaraeon 0–7 Oed Datblygu Chwaraeon Aura
Ers mis Medi 2021, mae rhaglen aml-chwaraeon 0–7 oed Datblygu Chwaraeon Aura wedi darparu dros 200 o sesiynau ar draws Sir y Fflint, a 134 o blant wedi bod ynddynt yn mwynhau un ai sesiynau 0–3 oed i rieni a phlant bach neu sesiynau aml-chwaraeon 4–7 oed.
Rydym ni’n ymdrechu i ddarparu sesiynau cynhwysol ac rydym wedi bod yn falch iawn o gael adborth cadarnhaol gan rieni, ac un yn dweud: “Weithiau dydi [fy mhlentyn] ddim eisiau ymuno efo gweithgareddau mewn grŵp mawr gan fod ei ddatblygiad cymdeithasol a chyfathrebu’n arafach. Bydd y tîm yn sicrhau ei fod o’n dal yn rhan o bethau ac mae mor braf eu gweld nhw’n canolbwyntio arno fo fel unigolyn.”
Mynegodd Bethan Conway, Cydlynydd Chwaraeon Ysgolion a’r Gymuned, ei brwdfrydedd ar ei rhan hi a’i chydweithiwr Emma Birks, gan ddweud: “Eleni, rydyn ni wedi gweld plant yn dysgu cerdded a neidio, rhyngweithio gyda phlant eraill, dangos hyder wrth roi cynnig ar bethau newydd a dechrau datblygu eu gallu corfforol. Mae hefyd wedi bod yn fraint gweithio gyda chydweithwyr o Lyfrgelloedd Aura ar y rhaglen hon. Mae’r bartneriaeth yn gweithio’n dda iawn ac mae cynnwys sesiwn amser stori wedi gwella’r profiad. Mae nifer o rieni wedi cofrestru eu plant yn aelodau o’r llyfrgell, sy’n wych.
“Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda phartneriaid fel y GIG, Dechrau’n Deg a Home-Start i gynnig 2 floc o sesiynau wedi’u hariannu i gefnogi cymunedau lleol. Mae’n wych bod yn ôl yn gweithio ar raglen Ffit, Bwyd a Darllen yr haf yma, gan roi gwybod i’r gymuned leol ein bod yma ar eu cyfer nhw, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau ein sesiynau 0–7 eto ym mis Medi.”
Bydd Tîm Datblygu Chwaraeon Aura yn darparu sesiynau 0–7 oed eto o fis Medi 2022 ymlaen yn Llyfrgell yr Wyddgrug, Pafiliwn Jade Jones y Fflint, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Canolfan Hamdden Bwcle a Chanolfan Hamdden Treffynnon. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Aml-chwaraeon 0–7 Aura yma.