Rhannu, creu a dathlu yn ystod Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon
Bydd Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon yn cael ei gynnal eleni o 29 Ionawr i 5 Chwefror 2022, un o’n hoff wythnosau yn y flwyddyn yma yn Llyfrgelloedd Aura. I fenthyg (ac addasu) geiriau un o’n hoff adroddwyr stori, Jane Austen: Mae’n wirionedd sy’n hysbys yn fyd-eang fod darllen a rhannu straeon yn dod a ni yn agosach at ein gilydd!
Rydym ni’n credu fod gwrando a darllen straeon yn ffordd berffaith i bobl o bob oed aros yn gysylltiedig a dathlu creadigrwydd. Rydym wedi rhoi rhestr ynghyd o’r pethau y gallwch ei wneud i rannu, creu a dathlu straeon yn ystod #WythnosGenedlaetholAdroddStraeon
1. Rhannwch eich hoff straeon gyda’ch llyfrgell
Cysylltwch â ni ar-lein drwy anfon eich hoff straeon i’w rhannu: gall fod yn llyfr, stori dylwyth teg, dyfyniad neu gerdd, hoffwn glywed am y straeon rydych chi’n eu caru a pham eu bod mor arbennig i chi. Dewch o hyd i ni ar Facebook ac Instagram ar: @LlyfrgelloeddAuraLibraries ac ar Twitter ar: @LibFlintshire
2. Gwrandewch ar Stori – darganfyddwch eich llyfrgell ddigidol 24 awr y dydd o gysur eich cartref
Mwynhewch lyfrau clywedol gwych gyda’ch llyfrgell ar-lein: Gall aelodau Llyfrgell Aura lawrlwytho e-lyfrau a llyfrau clywedol am ddim o Borrowbox a Libby i gyfrifiadur, gliniadur neu Mac. Fel arall, gallwch lawrlwytho yr apiau Borrowbox a Libby yn uniongyrchol i’ch ffôn clyfar neu ddyfais llechen. Darganfyddwch fwy yma.
3. Gaeaf Llawn Lles
Mae menter Gaeaf Llawn Lles yr Asiantaeth Ddarllen yn annog plant a phobl ifanc i rannu a dathlu’r gwahaniaeth y gall darllen ei gael ar fywydau pobl, a phŵer llyfrgelloedd cyhoeddus i’w cefnogi. Darllenwch fwy yma.
4. Ewch i weld Canllawiau Darllen Booktrust Cymru ar gyfer Plant
Mae Booktrust Cymru wedi llunio canllawiau darllen gwych sy’n addas ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. Gobeithiwn y bydd yr argymhellion darllen hyn yn ysbrydoli cariad tuag at ddarllen a chreadigrwydd. Rhowch wybod i ni pa straeon yw eich hoff rai! Ewch i wefan Booktrust Cymru, yma.
5. Ymunwch â Llyfrgelloedd Aura ar gyfer Ffrindiau Darllen
Cysylltwch gydag un o’n grwpiau darllen ar y cyd Ffrindiau Darllen: dyma ffordd wych o rannu straeon a thrafod byd y llyfrau, maent hefyd yn cynnig gofod i bobl gysylltu a chymdeithasu. Mae’r sesiynau hyn yn addas ar gyfer bob oed. Ymunwch â ni mewn un neu fwy o’r sesiynau canlynol:
• Grŵp Darllen Ar y Cyd Ffrindiau Darllen: dydd Mawrth cyntaf y mis 6.00pm yn Llyfrgell Glannau Dyfrdwy
• Ffrindiau Darllen Cymraeg ar gyfer dysgwr Cymraeg canolradd: ail ddydd Llun y mis 2.00-3.00pm (sesiwn Zoom)
• Grŵp Darllen Ar y Cyd Ffrindiau Darllen: ail ddydd Mawrth y mis 2.00pm yn Llyfrgell y Fflint
• Grŵp Darllen Ar y Cyd Ffrindiau Darllen: ail ddydd Iau y mis 11.00am yn Llyfrgell yr Wyddgrug
• Grŵp Darllen Ar y Cyd Ffrindiau Darllen: ail ddydd Mawrth y mis 1.00pm yn Llyfrgell Glannau Dyfrdwy
• Ffrindiau Darllen Cymraeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr lefel uwch: ail ddydd Mawrth y mi 7.00-8.00pm (Llyfrgell yr Wyddgrug/sesiwn Zoom – cysylltwch â Francesca ar gyfer y manylion: francesca.sciarrillo@aura.wales)
• Grŵp Darllen Ar y Cyd Ffrindiau Darllen: ail ddydd Mercher y mis 7.00-8.00pm (Sesiwn Zoom)
• Grŵp Darllen i Blant: dydd Iau olaf y mis 4.00-5.00pm (sesiwn Zoom)
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i archebu lle mewn un o’n digwyddiadau. I gofrestru ar gyfer unrhyw un i’n sesiynau Ffrindiau Darllen ar-lein, anfonwch e-bost at Susannah Hill ar susannah.hill@aura.wales
Digwyddiadau i ddod yn fuan
I ddathlu Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon a Mis Hanes LGBTQ+ (Chwefror 2022) bydd Mama G yn ymuno â ni ar gyfer sesiwn amser stori arbennig ar Zoom ar 5 Chwefror am 11:00am. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost at Susannah ar susannah.hill@aura.wales
Os ydych chi’n angerddol am ysgrifennu eich straeon eich hun, beth am ymuno â ni ar gyfer cyrsiau ysgrifennu creadigol y Gwanwyn hwn:
Cefnogwyr Hinsawdd
Yn addas ar gyfer plant rhwng 9 ac 11 oed
Hanner Tymor: Dydd Llun 21 Chwefror i ddydd Iau 24 Chwefror 11:00am-12:30pm
Ar ôl ysgol: Dydd Mawrth 1 Mawrth 2022 am 4 wythnos, 5:00-6:30pm
Dyma fi (cyrsiau ysgrifennu creadigol ar-lein)
Yn addas ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed
Hanner Tymor: Dydd Llun 21 Chwefror i ddydd Iau 24 Chwefror 2:00-3:30pm
Penwythnos: Dydd Sadwrn 5 Mawrth am 4 wythnos, 11:00am-12:30pm.
Bydd gwaith cyfranogwyr yn cael eu harddangos mewn digwyddiad arbennig ac yn cael eu rhannu ar ein llwyfan e-lyfrau
I gofrestru ar gyfer unrhyw un o’r cyrsiau hyn, anfonwch e-bost at charles@readnowwritenow.org.uk