Neges gan Dîm Sba Afon
Fel y mae llawer ohonoch yn ymwybodol yn barod, mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi ei drawsnewid yn ysbyty dros dro ar gyfer cleifion Covid-19 yn Ardal Ddwyreiniol Gogledd Cymru (Sir y Fflint a Wrecsam).
Gan fod Sba Afon wedi’i leoli yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rydym ar hyn o bryd yn methu â chynnig ein gwasanaethau wrth gefnogi’r GIG a’r Bwrdd Iechyd drwy’r cyfnod heriol hwn.
Fel tîm, hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i bob un o’n cwsmeriaid ffyddlon am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae’n anodd coelio’r sefyllfa sydd wedi bod ohoni’r Gwanwyn a’r Haf hwn ac rydym bellach yn symud i’r Hydref a’r Gaeaf heb groesawu unrhyw gwsmeriaid. Erbyn y bydd hyn i gyd drosodd bydd pobl angen cael gwared ar straen a chael y cyfle i ymlacio.
Nid oes dyddiad wedi’i gadarnhau ar gyfer ail-agor Afon Spa er ei fod yn edrych yn debyg iawn mai dechrau 2021 fydd hynny’n digwydd. Pan fyddwn ni’n dychwelyd, edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n hoff le a’ch gweld yn mwynhau ein gwasanaethau Sba, Iechyd a Harddwch rhagorol.
Gan ddymuno’r gorau i chi gyd a chadwch yn saff,
gan Dîm Sba Afon
Croeso i Sba Afon
Yma yn Sba Afon, rydym yn darparu’r lle perffaith i chi ddianc a darganfod heddwch.
Rydym yn ceisio creu llonyddwch a phrofiadau bythgofiadwy i bawb sy’n cerdded trwy ddrws y sba. Erbyn y byddwch chi’n gadael, byddwch yn teimlo wedi’ch adnewyddu.
Dim ots a ydych yn ymweld ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau, bydd sba Afon yn rhagori ar eich disgwyliadau.
Beth am fynd ar daith o’r Sba trwy’r glicio ar y ddolen ganlynol:
neu edrych ar rai o’n cynigion unigryw. Ni chewch eich siomi.
Manylion cyswllt:
Rhif Ffôn: 01352 704280
Gwefan: http://www.aura.cymru/sbaafon
e-bost: afonspa@aura.wales
Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram
Amseroedd Agor
Y sba o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am – 9pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul 10am – 5pm
Triniaethau
Dydd Llun i ddydd Gwener 9am – 8pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul 9am – 5pm