Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

SÊL DYDD GWENER DU 2023

TELERAU AC AMODAU

Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn: Talu am 8 mis a chael 12 mis
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Mae’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn yn cynnwys 4 mis am ddim wrth dalu ymlaen llaw am 12 mis (yn seiliedig ar dâl debyd uniongyrchol misol cyfatebol). Mae hyn yn well na’n Cynnig Blynyddol safonol o 2 fis am ddim.
3. Mae’r Cynnig Blynyddol ar gael i aelodau newydd sbon, aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol, aelodau sy’n adnewyddu ac aelodau nad ydynt yn mynychu bellach. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd â chynllun Cyfeirio Cyfaill hefyd neu ei brynu fel anrheg i aelodau newydd.
4. Bydd pob aelod newydd sydd yn ymuno drwy’r cynnig yma yn mynd drwy daith yr aelod fel arfer. Mae gan aelodau sydd eisoes â debyd uniongyrchol hawl i ganslo os ydynt yn dymuno trosi i’r Cynnig Blynyddol.
5. Bydd angen i gwsmeriaid newydd sydd yn ymrwymo i’r cynnig yma drefnu ymgynghoriad cychwynnol (yn rhad ac am ddim) yn unol â’r drefn arferol wrth ymuno ag un o ganolfannau hamdden Aura. Ni fydd angen i aelodau presennol fynd drwy ymgynghoriad cychwynnol er gallent drefnu rhaglen adolygu neu sesiwn ffitrwydd personol yn rhad ac am ddim.
6. Os ydi’r cynnig yn cael ei brynu ar gyfer aelod Blynyddol presennol sy’n dymuno adnewyddu, yna ni ellir ymestyn dyddiad terfyn yr aelodaeth Flynyddol bresennol y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2023.
7. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn.
8. Nid oes modd ad-dalu’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn ar ôl ei brynu, yn unol â thelerau ac amodau presennol sy’n gysylltiedig ag aelodaeth am flwyddyn.
9. Mae’r aelodau canlynol ar gael yn rhan o’r Cynnig am Flwyddyn:
• Cyfnodau Brig
• Ffitrwydd a Sba
• 18-24 oed
• 60+ Cyfnodau Tawel (unrhyw amser cyn 5.00pm)
• Ystafell Ffitrwydd Bwcle
• Dosbarthiadau Ffitrwydd heb Gyfyngiad
• Sba Afon
• Corfforaethol
• Ffitrwydd Ieuenctid
• Campau Dŵr Oedolion (holl weithgareddau yn y dŵr gan gynnwys nofio cyhoeddus, gwersi a dosbarthiadau)
• Nofio heb Gyfyngiad i Oedolion (nofio cyhoeddus yn unig)

Cynnig Dosbarth Ffitrwydd 30: 30 sesiwn am bris 20
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Pris cyfredol Dosbarth Ffitrwydd ar gyfer deiliad cerdyn Aura yw £6.50. Mae’r cynnig hwn yn galluogi cwsmeriaid i brynu 30 x sesiwn Dosbarth Ffitrwydd am bris 20. Bydd y cwsmer yn talu £130.00 yn hytrach na’r pris arferol sef £195.00, gan arbed £65.00.
3. Gall cwsmeriaid Oedolion a rhai ar gyfradd Gostyngiadau brynu cynnig Dosbarth Ffitrwydd 30.
4. Dim ond mewn sesiynau dosbarth ffitrwydd y gellir defnyddio ‘Cynnig Dosbarth Ffitrwydd 30’ ac nid oes modd ei drosglwyddo i sesiynau yn y pwll nofio na’r gampfa.
5. Mae’r cynnig yma ar gael i gwsmeriaid newydd sbon, cwsmeriaid ‘Dosbarth Ffitrwydd Arbed 10’ presennol ac aelodau debyd uniongyrchol presennol.
6. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r Cynnig Dosbarth Ffitrwydd 30.
7. Nid oes modd ad-dalu’r cynnig ar ôl ei brynu, yn unol â thelerau ac amodau presennol sy’n gysylltiedig ag Arbed 10.
8. Yn unol â’r cynnig Arbed 10 safonol, bydd angen defnyddio 30 defnydd sydd yn berthnasol i gynnig Arbed 30 Dydd Gwener Du o fewn y 12 mis o’r dyddiad y caiff ei brynu.

Cynnig Nofio 30: 30 sesiwn am bris 20
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Pris cyfredol sesiwn nofio ar gyfer deiliad cerdyn Aura yw £6.00. Mae’r cynnig hwn yn galluogi cwsmeriaid i brynu 30 x sesiwn nofio am bris 20. Bydd y cwsmer yn talu £120.00 yn hytrach na’r pris arferol sef £180.00, gan arbed £60.00.
3. Gall cwsmeriaid Oedolion, Ieuenctid a rhai ar gyfradd Gostyngiadau brynu cynnig Sesiwn Nofio 30.
4. Dim ond mewn sesiynau nofio cyhoeddus y gellir defnyddio Cynnig Nofio 30 ac nid oes modd ei drosglwyddo i sesiynau yn y gampfa na sesiynau dosbarth ffitrwydd.
5. Mae’r cynnig yma ar gael i gwsmeriaid newydd sbon, cwsmeriaid ‘Nofio Arbed 10’ presennol ac aelodau debyd uniongyrchol presennol.
6. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r Cynnig Nofio Arbed 30.
7. Nid oes modd ad-dalu’r cynnig ar ôl ei brynu, yn unol â thelerau ac amodau presennol sy’n gysylltiedig ag Arbed 10.
8. Yn unol â’r cynnig Arbed 10 safonol, bydd angen defnyddio 30 defnydd sydd yn berthnasol i gynnig Arbed 30 Dydd Gwener Du o fewn y 12 mis o’r dyddiad y caiff ei brynu.

30% i ffwrdd o Driniaethau yn Sba Afon
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn cael gostyngiad o 30% oddi ar unrhyw driniaethau sydd ar ein rhestr prisiau.
3. Nid yw’r cynnig yma’n cynnwys unrhyw becynnau neu driniaethau eraill sydd â gostyngiad.
4. Mae’n rhaid talu’n llawn ar y diwrnod y byddwch yn archebu ac mae’n rhaid mynd am driniaeth yn ystod yr wythnos, rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 29 Chwefror 2024.
5. Ni ellir trosglwyddo archebion i ddyddiad hwyrach y tu allan i’r dyddiad sydd wedi’i nodi uchod.

25% i ffwrdd o Fowlio Deg ym Mhafiliwn Jade Jones Y Fflint
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Mae’r cynnig hwn yn gymwys i holl lonydd Bowlio Deg.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac ar gael yma
4. Rhaid i lonydd bowlio deg a delir amdanynt yn ystod cyfnod y cynnig dydd Gwener Du gael eu harchebu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol o fewn y 12 mis nesaf.
5. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: jjpattractions@aura.wales

25% i ffwrdd o Barti Chwarae Meddal ym Mhafiliwn Jade Jones y Fflint
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn derbyn gostyngiad o 25% oddi ar Barti Chwarae Meddal wrth ddefnyddio’r cod gostyngiad BFSOFT25 ar-lein.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac ar gael yma
4. Mae Parti Chwarae Meddal ar gael ar gyfer 15 i 20 o blant; uchafswm oedran yw 10 oed gyda chyfyngiad uchder o 1.43 metr.
5. Mae’r parti yn cynnwys defnydd o’r ystafell Chwarae Meddal ac Ystafell Parti am ddwy awr, bocsys brechdanau neu nygets cyw iâr a sglodion, hufen iâ a sudd diddiwedd ar gyfer yr holl westeion.
6. Bydd £9.40 yn cael ei godi ar westeion ychwanegol (mwy na 20).
7. Rhaid i Barti Chwarae Meddal a delir amdanynt yn ystod cyfnod y cynnig dydd Gwener Du gael eu harchebu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol o fewn y 12 mis nesaf.

25% i ffwrdd o Docyn 10 Sesiwn i’r Parc Sglefrio yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn gallu prynu’r Tocyn 10 Sesiwn gyda gostyngiad ar-lein.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac ar gael yma
4. Mae’r cynnig hwn ar gael ar gyfer Tocyn 10 Sesiwn yn unig (Oedolion ac Ieuenctid).
5. Bydd polisi derbyniadau Parc Sglefrio Aura yn gymwys i holl sesiynau Parc Sglefrio.
6. Mae Tocyn 10 Sesiwn yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad prynu.

20% i ffwrdd o Barti Parc Sglefrio yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn derbyn gostyngiad o 20% oddi ar Barti Parc Sglefrio wrth ddefnyddio’r cod gostyngiad SKATEP20 ar-lein.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac ar gael yma
4. Y ffi safonol ar gyfer Parti Parc Sglefrio yw £120.000 am hyd at 10 o westai (8 oed a hŷn). Mae’r parti yn cynnwys sesiwn dwy awr ar y Parc Sglefrio a defnydd o’r Ystafell Barti. Mae’r bwyd yn cynnwys pitsa/cŵn poeth, hufen iâ a sudd diderfyn ar gyfer yr holl westai. Mae gwestai ychwanegol (mwy na 10) wedi’u cyfyngu i uchafswm o 6 gyda ffi ar y gyfradd safonol o £12.00 yr un.
5. Bydd polisi derbyniadau Parc Sglefrio Aura yn gymwys i holl Bartïon Parc Sglefrio. Rhaid i reidwyr fod yn 8 oed a throsodd.
6. Gellir llogi offer ar gais (helmedau, sgwteri a byrddau sglefrio).
7. Rhaid i Barti Parc Sglefrio a delir amdanynt yn ystod cyfnod y cynnig Dydd Gwener Du gael eu harchebu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol o fewn y 12 mis nesaf.
8. Gellir gweld y telerau ac amodau llawn ar gyfer ymweld â’r Parc Sglefrio yma

20% i ffwrdd o Gardiau Rhodd Parc Chwyddadwy yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn derbyn gostyngiad o 20% i ffwrdd o gynnyrch Rhodd Parc Chwyddadwy Aura (taleb rhodd) wrth gymhwyso’r cod gostyngiad BOUNCEBF ar-lein.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac ar gael yma
4. Rhaid i’r daleb Parc Chwyddadwy fod yn werth rhwng £10.00 i £100.00.
5. Mae’r daleb Parc Chwyddadwy yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad prynu.

20% i ffwrdd o Barti Pwll Nofio ym Mwcle, Y Fflint a’r Wyddgrug
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 a dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Mae’r cynnig ar gael ar gyfer pyllau nofio Canolfan Hamdden Bwcle, Pafiliwn Jade Jones y Fflint a Chanolfan Hamdden yr Wyddgrug.
3. Mae pecynnau Parti Pwll yn amrywio rhwng canolfannau hamdden; bydd telerau ac amodau safle yn cael eu rhannu gyda’r cwsmeriaid ar adeg archebu. Fodd bynnag, bydd y cwsmer yn derbyn 20% i ffwrdd o bris llawn yr archeb gyfan.
4. Rhaid i Bartïon Pwll a delir amdanynt yn ystod y cynnig Dydd Gwener Du gael eu harchebu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol o fewn y 12 mis nesaf.
5. Bydd polisi derbyniadau pwl nofio Aura yn gymwys i Bartïon Pwll Teganau Gwynt. Dim ond nofwyr hyderus fydd yn cael caniatâd i fynd i’r pwll teganau gwynt mawr.

Back To Top