skip to Main Content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad
  • Bydd pob canolfan hamdden a llyfrgell AR GAU o 8:00am hyd 11:00am Dydd Iau, 28 Medi 2023. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

SÊL DYDD GWENER GWARIO GWYLLT 2022

TELERAU AC AMODAU

Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn: Talu am 8 mis a chael 12 mis
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Mae’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn yn cynnwys 4 mis am ddim wrth dalu ymlaen llaw am 12 mis (yn seiliedig ar dâl debyd uniongyrchol misol cyfatebol). Mae hyn yn well na’n Cynnig Blynyddol safonol o 2 fis am ddim.
3. Mae’r Cynnig Blynyddol ar gael i aelodau newydd sbon, aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol, aelodau sy’n adnewyddu ac aelodau nad ydynt yn mynychu bellach. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd â chynllun Cyfeirio Cyfaill hefyd neu ei brynu fel anrheg i aelodau newydd.
4. Bydd pob aelod newydd sydd yn ymuno drwy’r cynnig yma yn mynd drwy daith yr aelod fel arfer. Mae gan aelodau sydd eisoes â debyd uniongyrchol hawl i ganslo os ydynt yn dymuno er mwyn trosi i’r Cynnig Blynyddol.
5. Bydd angen i gwsmeriaid newydd sydd yn ymrwymo i’r cynnig yma drefnu ymgynghoriad cychwynnol (yn rhad ac am ddim yn rhan o’r cynnig hwn) yn unol â’r drefn arferol tra’n ymuno ag un o ganolfannau hamdden Aura. Ni fydd angen i aelodau presennol fynd drwy ymgynghoriad cychwynnol er gallant drefnu rhaglen adolygu neu sesiwn ffitrwydd personol yn rhad ac am ddim.
6. Os ydi’r cynnig yn cael ei brynu ar gyfer aelod Blynyddol presennol sy’n dymuno adnewyddu, yna ni ellir ymestyn dyddiad terfyn yr aelodaeth Flynyddol bresennol y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2022.
7. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn.
8. Nid oes modd ad-dalu’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn ar ôl ei brynu, yn unol â thelerau ac amodau presennol sy’n gysylltiedig ag aelodaeth am flwyddyn.
9. Os na fydd ein cyfleusterau ar gael yn y dyfodol oherwydd cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â Covid-19, bydd Aura yn ymestyn y dyddiad terfyn blaenorol er mwyn adlewyrchu’r cyfnod amser y bu’r cyfleusterau ar gau.
10. Mae’r aelodau canlynol ar gael yn rhan o’r Cynnig am Flwyddyn:
• Cyfnodau Brig
• Cyfnodau Tawel (unrhyw amser cyn 5.00pm)
• Ffitrwydd a Sba
• 18-24 Oed
• Cyfnodau Tawel 60+ Oed (unrhyw amser cyn 5.00pm)
• Ystafell Ffitrwydd Bwcle
• Dosbarthiadau Ffitrwydd heb Gyfyngiad
• Sba Afon
• Corfforaethol
• Ffitrwydd Iau
• Sesiynau Nofio i Oedolion heb Gyfyngiad

3 Dosbarth Ffitrwydd am Bris 2 – gydag Arbed 10
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Y pris presennol ar gyfer Dosbarth Ffitrwydd – Arbed 10 yw £48.00. Mae’r cynnig yma’n galluogi cwsmeriaid i brynu 3 Dosbarth Ffitrwydd Arbed 10, sydd gyfystyr â 30 sesiwn am bris 2 Ddosbarth Ffitrwydd Arbed 10. Bydd y cwsmer yn talu £96.00 yn hytrach na’r pris arferol sef £144.00, gan arbed £48.00.
3. Gall cwsmeriaid Oedolion, Ieuenctid a rhai ar gyfradd Gostyngiadau brynu cynnig Dosbarth Ffitrwydd Arbed 10.
4. Dim ond mewn sesiynau dosbarth ffitrwydd y gellir defnyddio ‘Dosbarth Ffitrwydd Arbed 10’ ac nid oes modd ei drosglwyddo i sesiynau yn y pwll nofio na’r gampfa.
5. Mae’r cynnig yma ar gael i gwsmeriaid newydd sbon, cwsmeriaid ‘Dosbarth Ffitrwydd Arbed 10’ presennol ac aelodau debyd uniongyrchol presennol.
6. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r cynnig 3x Dosbarth Ffitrwydd Arbed 10.
7. Nid oes modd ad-dalu’r cynnig ar ôl ei brynu, yn unol â thelerau ac amodau presennol sy’n gysylltiedig ag Arbed 10.
8. Os na fydd ein cyfleusterau ar gael yn y dyfodol oherwydd cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â Covid-19, bydd Aura yn ymestyn y dyddiad terfyn blaenorol er mwyn adlewyrchu’r cyfnod amser y bu’r cyfleusterau ar gau.
9. Mae’r cynnig hwn ar gael i’r aelod sydd yn ei brynu gyda’r defnydd o 30 yn cael ei gymhwyso i gyfrif unigolyn. Os bydd y cwsmer sydd yn ei brynu eisiau rhoi un neu ddau o’r Arbedion 10 (h.y. 10 neu 20 ddefnydd) fel anrheg i ffrind neu aelod o’r teulu, yna bydd angen prynu’r cynnig drwy Brif Swyddfa Aura, gan gysylltu ag info@aura.wales neu ffonio 01352 702436.
10. Yn unol â chynnig Arbed 10 safonol, bydd angen defnyddio 30 defnydd sydd yn berthnasol i gynnig Arbed 10 Dydd Gwener Du o fewn y 12 mis o’r dyddiad y caiff ei brynu.

3 sesiwn Nofio am bris 2 – Arbed 10
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Y pris presennol ar gyfer Sesiwn Nofio gydag Arbed 10 yw £41.60. Mae’r cynnig yma’n galluogi cwsmeriaid i brynu 3 Sesiwn Nofio Arbed 10, sydd gyfystyr â 30 sesiwn am bris 2 Sesiwn Nofio Arbed 10. Bydd y cwsmer yn talu £83.20 yn hytrach na’r pris arferol sef £124.80, gan arbed £41.60.
3. Gall cwsmeriaid Oedolion, Ieuenctid a rhai ar gyfradd Gostyngiadau brynu cynnig Sesiynau Nofio Arbed 10.
4. Dim ond mewn sesiynau Nofio cyhoeddus y gellir defnyddio ‘Sesiwn Nofio Arbed 10’ ac nid oes modd ei drosglwyddo i sesiynau yn y gampfa na dosbarth ffitrwydd.
5. Mae’r cynnig yma ar gael i gwsmeriaid newydd sbon, cwsmeriaid ‘Sesiwn Nofio Arbed 10’ presennol ac aelodau debyd uniongyrchol presennol.
6. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r cynnig 3x Sesiwn Nofio Arbed 10.
7. Nid oes modd ad-dalu’r cynnig ar ôl ei brynu, yn unol â thelerau ac amodau presennol sy’n gysylltiedig ag Arbed 10.
8. Os na fydd ein cyfleusterau ar gael yn y dyfodol oherwydd cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â Covid-19, bydd Aura yn ymestyn y dyddiad terfyn blaenorol er mwyn adlewyrchu’r cyfnod amser y bu’r cyfleusterau ar gau.
9. Mae’r cynnig hwn ar gael i’r aelod sydd yn ei brynu gyda’r defnydd o 30 yn cael ei gymhwyso i gyfrif unigolyn. Os bydd y cwsmer sydd yn ei brynu eisiau rhoi un neu ddau o’r Arbedion 10 (h.y. 10 neu 20 ddefnydd) fel anrheg i ffrind neu aelod o’r teulu, yna bydd angen prynu’r cynnig drwy Brif Swyddfa Aura, gan gysylltu ag info@aura.wales neu ffonio 01352 702436.
10. Yn unol â’r cynnig Arbed 10 safonol, bydd angen defnyddio 30 defnydd sydd yn berthnasol i gynnig Arbed 10 Dydd Gwener Du o fewn y 12 mis o’r dyddiad y caiff ei brynu.

30% oddi ar Driniaethau yn Sba Afon
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn cael gostyngiad o 30% oddi ar unrhyw driniaethau sydd ar ein rhestr prisiau.
3. Nid yw’r cynnig yma’n cynnwys unrhyw becynnau neu driniaethau eraill sydd â gostyngiad.
4. Mae’n rhaid talu’n llawn ar y diwrnod y byddwch yn archebu ac mae’n rhaid mynd am driniaeth yn ystod yr wythnos, rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 28 Chwefror 2023.
5. Ni ellir trosglwyddo archebion i ddyddiad hwyrach y tu allan i’r dyddiad sydd wedi’i nodi uchod.

 

Parc Chwyddadwy yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn cael gostyngiad o 20% oddi ar Docyn Rhodd Bownsio yn y Parc Chwyddadwy wrth gymhwyso’r cod gostyngiad BOUNCEBF wrth dalu ar-lein.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac mae ar gael yma.
4. Rhaid i’r Tocyn Rhodd Bownsio fod rhwng £10.00 a £100.00.
5. Mae’r Docyn Rhodd Bownsio yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y caiff ei brynu.

Parc Sglefrio yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn cael gostyngiad o 20% oddi ar Docyn Rhodd yn y Parc Sglefrio wrth gymhwyso’r cod gostyngiad RIDEBF wrth dalu ar-lein.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac mae ar gael yma.
4. Rhaid i’r Tocyn Rhodd Parc Sglefrio fod rhwng £10.00 a £100.00.
5. Mae’r Docyn Rhodd Parc Sglefrio yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y caiff ei brynu.
6. Mae Tocynnau 5 Sesiwn i Oedolion a Phlant Iau hefyd ar gael am bris gostyngol o £20.00 a £15.00. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o £10.00 oddi ar dâl arferol i Oedolion o £30.00 a thâl Plentyn Iau o £25.00.
7. Gellir prynu’r Tocynnau 5 Sesiwn ar-lein neu yn y Parc Sglefrio ac maent yn ddilys am 12 mis o’r y dyddiad caiff ei brynu.

Arena Iâ Glannau Dyfrdwy
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn cael gostyngiad o 20% oddi ar Docyn Rhodd yn yr Arena Iâ wrth gymhwyso’r cod gostyngiad ICEBF wrth dalu ar-lein.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac mae ar gael yma.
4. Rhaid i’r Tocyn Rhodd Arena Iâ fod rhwng £10.00 a £100.00.
5. Mae’r Docyn Rhodd Arena Iâ yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y caiff ei brynu.

Coffi Aura yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
1. Bydd yr holl ddiodydd poeth a brynir yn y siop goffi yn costio £1.50 o ddydd Gwener, 25 Tachwedd 2022 tan ddydd Llun, 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.

Partïon Aura ym Mhafiliwn Jade Jones y Fflint
1. Mae partïon Bowlio Deg yn £120.00 am hyd at 20 o westeion (5 oed a hŷn). Mae’r parti’n cynnwys awr o fowlio deg, pitsa a sglodion, hufen iâ a sudd diderfyn i’r holl westeion. Gwesteion ychwanegol (dros 20) £10 yr un.
2. Mae partïon Chwarae Meddal yn £100.00 am hyd at 20 o westeion (terfyn uchder o 1.43 metr, uchafswm oedran – 10 oed). Mae’r parti’n cynnwys dwy awr i chi eich hun yn yr ystafell chwarae meddal a pharti gyda bocsys brechdanau neu nygets cyw iâr a sglodion, hufen iâ a sudd diderfyn i’r holl westeion. Gwesteion ychwanegol (dros 20) £8.50.
3. Parti Teganau Aer yn y Pwll yn £100.00 am hyd at 30 o westeion (8-12 oed). Mae’r parti yn cynnwys 45 munud ar y teganau aer a’r prif bwll. Nid yw bwyd parti wedi’i gynnwys yn y tâl o £100.00. Mae opsiwn bwyd o bitsa a sglodion, hufen iâ a sudd diderfyn ar gael am y tâl ychwanegol o £4.25 y pen.
4. Rhaid archebu partïon pen-blwydd y telir amdanynt rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022 ar gyfer dyddiad yn y dyfodol o fewn y 12 mis nesaf.
5. Bydd polisi derbyn pyllau nofio Aura yn berthnasol i bob parti pwll. Dim ond nofwyr cymwys fydd yn cael mynediad i’r pwll mawr ar ar y teganau aer.

Gwersylloedd Pêl-Droed Aura
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Llun 28 Tachwedd 2022, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Bydd cwsmeriaid yn cael gostyngiad o 20% oddi ar Wersylloedd Pêl-Droed ym mis Ionawr 2023 wrth gymhwyso’r cod Gostyngiad FOOTBALLBF wrth dalu ar-lein.
3. Mae’r cynnig hwn ar-lein yn unig ac mae ar gael yma.

.

 

Back To Top