Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

SÊL DYDD GWENER GWYCH 2023

Dydd Gwener 26 Mai – Dydd Llun 29 Mai 2023

TELERAU AC AMODAU

Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn: Talu am 8 mis a chael 12 mis
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener 26 Mai 2023 a dydd Llun 29 Mai 2023, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Mae’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn yn cynnwys 4 mis am ddim wrth dalu ymlaen llaw am 12 mis (yn seiliedig ar dâl debyd uniongyrchol misol cyfatebol). Mae hyn yn well na’n Cynnig Blynyddol safonol o 2 fis am ddim.
3. Mae’r Cynnig Blynyddol ar gael i aelodau newydd sbon, aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol, aelodau sy’n adnewyddu ac aelodau nad ydynt yn mynychu bellach. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd â chynllun Cyfeirio Cyfaill hefyd neu ei brynu fel anrheg i aelodau newydd.
4. Bydd pob aelod newydd sydd yn ymuno drwy’r cynnig yma yn mynd drwy daith yr aelod fel arfer. Mae gan aelodau sydd eisoes â debyd uniongyrchol hawl i ganslo os ydynt yn dymuno er mwyn trosi i’r Cynnig Blynyddol.
5. Bydd angen i gwsmeriaid newydd sydd yn ymrwymo i’r cynnig yma drefnu ymgynghoriad cychwynnol (yn rhad ac am ddim) yn unol â’r drefn arferol tra’n ymuno ag un o ganolfannau hamdden Aura. Ni fydd angen i aelodau presennol fynd drwy ymgynghoriad cychwynnol er gallant drefnu rhaglen adolygu neu sesiwn ffitrwydd personol yn rhad ac am ddim.
6. Os ydi’r cynnig yn cael ei brynu ar gyfer aelod Blynyddol presennol sy’n dymuno adnewyddu, yna ni ellir ymestyn dyddiad terfyn yr aelodaeth Flynyddol bresennol y tu hwnt i 30 Mehefin 2023.
7. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn.
8. Nid oes modd ad-dalu’r Cynnig Aelodaeth am Flwyddyn ar ôl ei brynu, yn unol â thelerau ac amodau presennol sy’n gysylltiedig ag aelodaeth am flwyddyn.
9. Os na fydd ein cyfleusterau ar gael yn y dyfodol oherwydd cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â Covid-19, bydd Aura yn ymestyn y dyddiad terfyn blaenorol er mwyn adlewyrchu’r cyfnod amser y bu’r cyfleusterau ar gau.
10. Mae’r aelodau canlynol ar gael yn rhan o’r Cynnig am Flwyddyn:
• Cyfnodau Brig
• Ffitrwydd a Sba
• 18-24 Oed
• Cyfnodau Tawel 60+ Oed (unrhyw amser cyn 5.00pm)
• Ystafell Ffitrwydd Bwcle
• Dosbarthiadau Ffitrwydd heb Gyfyngiad
• Sba Afon
• Corfforaethol
• Ffitrwydd Iau
• Sesiynau Nofio i Oedolion heb Gyfyngiad

Back To Top