Sesiynau Cefnogi Ychwanegol ar gyfer Plant 4+ Oed ym Mhwll Nofio Aura
Mae’r tîm Nofio Aura yn falch o allu cynnig sesiynau cefnogi ychwanegol yn ein pyllau nofio yn yr Wyddgrug a’r Fflint.
Mae’r sesiynau hyn, sydd wedi’u hanelu at blant 4 oed a hŷn, yn llai mewn maint ac yn cynnig cymorth ychwanegol yn y dŵr gan riant neu ofalwr. Mae hyn yn galluogi i’n hyfforddwyr cyfeillgar, cymwys a chefnogol ganolbwyntio ar anghenion unigol y cyfranogwyr.
Dywedodd Hyfforddwr Nofio Aura, Kayle Ford: “Mae ein sesiynau Cefnogi Ychwanegol yn darparu hyblygrwydd o fewn strwythur y wers. Mae hyn yn galluogi mwy o gydbwysedd rhwng canolbwyntio ar ddatblygiad techneg nofio pob plentyn tra’n adeiladu hyder yn y dŵr drwy chwarae. Rydym yn addasu’r gwersi hyn i anghenion yr unigolion trwy deilwra’r sesiwn ar gyfer nofwyr sy’n profi sensitifrwydd i sŵn neu sydd methu canolbwyntio am amser hir. Un o’r prif fanteision yw tu allan i’r dŵr, rydym wedi gweld fod rhieni yn cael cyfle i siarad gyda rhieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.”
Mae’r rhiant Rhiannon Whittaker wedi gweld gwelliant cadarnhaol yn nofio ei phlentyn o ganlyniad i’r sesiynau cefnogi ychwanegol, gan ddweud: “Mae’r sesiwn chwarae synhwyraidd wedi bod yn berffaith ar gyfer fy merch 5 oedd sydd â nodweddion anhwylderau yn y sbectrwm awtistig. Collodd ei hyder flwyddyn yn ôl ac mae’r sesiynau hyn wedi bod yn wych. Mae’r hyfforddwyr yn dawel ond yn dal i wneud gweithgareddau hwyliog i’w hannog i grwydro’r pwll. Mae hi hyd yn oed wedi dechrau cicio unwaith eto!”
Ein gobaith yw y bydd y sesiynau cynhwysol hyn yn cefnogi holl blant i gymryd rhan a mwynhau gwersi nofio, gan eu galluogi i ymarfer a gwneud cynnydd ar eu cyflymder eu hunain.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost atom ni ar: swim@aura.wales