Sesiynau Galw Heibio Iechyd a Lles ym Mhafiliwn Jade Jones, Y Fflint
O wiriadau iechyd a chyngor am faeth, i sesiynau a dosbarthiadau ffitrwydd personol – mae yna rywbeth i bawb!
Mae tîm Ffitrwydd Aura yn falch o allu cynnal sesiynau galw heibio yn rhad ac am ddim yn ein hystafell ffitrwydd yn y Fflint y mis hwn. Pwrpas y sesiynau galw heibio yma yw hyrwyddo iechyd a lles, a meithrin perthnasau o fewn y gymuned yn Sir y Fflint.
Gallwn ddarparu i gynulleidfa eang, a darparu cyfleoedd iechyd gwell i ieuenctid ac oedolion o bob oedran. Fe fydd yna gyfleoedd i roi cynnig ar ddosbarthiadau amrywiol yn ogystal â sesiynau ffitrwydd personol. Fe fydd ein hyfforddwyr ffitrwydd cyfeillgar wrth law hefyd i’ch tywys drwy wiriadau iechyd a darparu cyngor iechyd a lles.
Fe eglurodd Jordan Buffong, Goruchwyliwr Ffitrwydd at Ystafell Ffitrwydd Flint: “Rydym ni’n annog aelodau o’r gymuned leol i ddod i’r ystafell ffitrwydd am gyfnod o dair wythnos yn rhad ac am ddim i gael cyfle i roi cynnig ar bopeth sydd gennym i’w gynnig. Mae gennym gyfleusterau ffitrwydd ffantastig ac fe hoffem greu rhagor o ymwybyddiaeth am botensial yr ystafell ffitrwydd i gynorthwyo pobl i wella eu lles corfforol a meddyliol”.
Yn ogystal â dosbarthiadau a sesiynau ffitrwydd personol, rydym ni hefyd yn cynnig sesiynau sydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant pwysau yn benodol. Fe ychwanegodd Jordan: “Mae hi mor bwysig annog ieuenctid a phobl ifanc i ymarfer yn ddiogel, ond i wneud hynny mewn amgylchedd hwyliog a chroesawgar. Dyna pam ein bod ni’n cynnig sesiwn galw heibio ‘Cyflwyniad i Hyfforddiant Pwysau’: y man cychwyn perffaith gyda’n hyfforddwyr profiadol a chyfeillgar.
Rydym ni hefyd yn deall y gall camu i ardal pwysau mewn campfa fod yn eithaf dychrynllyd i rai merched. Dyna pam yr hoffem ni gyflwyno sesiwn hyfforddiant grŵp Pwysau i Ferched am ddim er mwyn gwneud ein haelodau benywaidd deimlo’n gyfforddus ac yn hapus, a chynyddu eu hyder yn defnyddio pwysau – ochr yn ochr â bod yn hwyliog a llawn gwybodaeth.”
Fe fydd y sesiynau galw heibio yn cychwyn ar 14 Tachwedd. Galwch draw i’r gampfa, neu cysylltwch â ni ar 01352 704308 i gael rhagor o wybodaeth. Gobeithio y gwelwn ni chi’n fuan!