Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Llyfrgelloedd Aura yn ‘Perfformio’n Dda’ yn yr Adroddiad Blynyddol Diweddaraf ar Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

Mae Aura Cymru wedi mynegi eu boddhad yn dilyn eu hasesiad diweddaraf gan Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru, a oedd yn nodi bod y gymdeithas mantais gymunedol sy’n eiddo i’r gweithwyr yn ‘perfformio’n dda’ yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Mae Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn fecanwaith sy’n galluogi darparwyr gwasanaeth a Llywodraeth Cymru i fesur darpariaeth a pherfformiad llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Er nad yw’n rhan uniongyrchol o’u cyfrifoldebau statudol, fel yr amlinellir yn Neddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yw’r dull sefydledig a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i asesu gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru fel rhan o’i dyletswyddau cyfreithiol. Gweithredu o fewn y 6ed Fframwaith ar hyn o bryd – Llyfrgelloedd Cysylltiedig ac Uchelgeisiol – mae Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys cyfres o ddangosyddion ansawdd wedi’u meincnodi’n genedlaethol a ‘hawliau craidd’, ac mae’n ofynnol i Aura gyflwyno datganiad blynyddol i Lywodraeth Cymru.

Yn yr adroddiad asesu blynyddol diweddaraf, dros y 12 mis rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, roedd Aura yn bodloni pob un o’r 12 o hawliau craidd yn llawn, ac roedd asesydd anibynnol yn cytuno â hunanasesiad y sefydliad. O’r 10 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, bu i wasanaeth llyfrgelloedd Sir y Fflint, a reolir gan Aura, gyflawni wyth yn llawn a dau yn rhannol.

Roedd adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn nodi ffocws diweddar llyfrgelloedd Aura ar iechyd a lles, ynghyd â gwell darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc, a chafodd lefelau presenoldeb mewn digwyddiadau eu cydnabod fel elfen gadarnhaol arall.

Gan ymateb i’r adroddiad blynyddol diweddaraf ar Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, dywedodd Kate Leonard, Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd: “Rwy’n falch iawn o allu rhannu ein perfformiad yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, ac mae’r adroddiad yn dangos sut mae llyfrgelloedd Aura yn cefnogi iechyd a lles pobl yn llwyddiannus, ac yn gweithio i fynd i’r afael â materion megis tlodi, arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan bwysig wrth wraidd eu cymunedau lleol, gan gynnig mannau cynnes a chroesawus ar gyfer preswylwyr Sir y Fflint, lle gallant ddod o hyd i ddewis gwych o wasanaethau o ansawdd uchel a ddarperir gan ein haelodau o staff ymroddgar a gwybodus.”

Meddai Sara Mogel OBE, Cadeirydd Aura: “Rydym yn falch iawn o lyfrgelloedd Aura a sut maent wedi tyfu a datblygu i fod yn ganolbwyntiau gwerthfawr o dan ein stiwardiaeth. Mae hyn yn hynod bwysig, gan fod llyfrgelloedd ar draws y wlad yn cau neu’n lleihau eu gwasanaethau, er bod Aura yn parhau i gynnal saith llyfrgell, gwasanaeth llyfrgell deithiol a gwasanaeth danfon i’r cartref. Mae’n wych cael ein cydnabod fel arweinydd yn ein maes gan yr adroddiad cenedlaethol hwn.”

Mae Adroddiad Asesu Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru Blynyddol 2022/23 ar gyfer llyfrgelloedd Aura yn Sir y Fflint i’w weld yn llawn yma.

Back To Top