Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Swatiwch o flaen y tân gyda’n hargymhellion ofnus ar gyfer eu darllen y Calan Gaeaf hwn

Calan Gaeaf Hapus gan Lyfrgelloedd Aura!

Boed yn ffan o ffuglen droseddol, straeon ysbryd traddodiadol, arswyd neu lyfr seicolegol cyffrous, byddwch yn siŵr o ganfod eich llyfr neu lyfr llafar Calan Gaeaf perffaith i chi ymysg ein hargymhellion i’w darllen:

Gan ddechrau gyda’r clasuron: The Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde gan Robert Louis Stevenson a The Haunting of Hill House gan Shirley Jackson. Mae’r clasuron hyn yn ddewis perffaith ar gyfer nosweithiau tywyll gaeafol wrth y tân.

Am stori ysbryd sy’n diferu gydag ansicrwydd, mae The Lost Ones gan Anita Frank yn wych, yn ogystal â The Man in the Picture gan Susan Hill. Byddwn yn argymell straeon ysbryd eraill Susan Hill hefyd, megis The Woman in Black a The Small Hand, ond i ddarllenwyr sy’n teimlo’n arbennig o ddewr yn unig y Calan Gaeaf hwn!

Os ydych chi’n chwilio am ffuglen hanesyddol sydd wedi cyffroi’r adolygwyr, rydym yn argymell: Triflers Need Not Apply gan Camilla Bruce a The Manningtree Witches gan A.K. Blakemore. Mae’r ddau lyfr hyn yn seiliedig ar fywydau ffigyrau hanesyddol, boed yn grŵp o ferched wedi’u condemnio yn The Manningtree Witches, neu’r llofrudd a ddibriswyd Bella Sorensen, yn Triflers Need Not Apply: y dewis perffaith ar gyfer dilynwyr Alias Grace gan Margaret Atwood (hanes erchyll arall!).

Mae ein dau argymhelliad nesaf wedi cael eu mwynhau ar y sgrin fawr fel addasiadau gan ‘brenin’ llenyddiaeth arswyd modern: ie dyna chi – Stephen King! Rydym ni’n argymell: The Shining a Carrie – darllenwch ar eich menter eich hun!

Os yw llyfr cyffrous sy’n gwneud i chi droi’r tudalennau at eich dant chi, pam na geisiwch: Madam gan Phoebe Wynne a The Maidens gan Alex Michaelides? Mae’r ddau yn deitlau sydd newydd gael eu cyhoeddi, ac wedi’u lleoli o fewn sefydliadau addysgol crand, sy’n plethu gorffennol gothig cythryblus gyda phresennol hyd yn oed mwy ofnus.

Ac yn olaf, i ffans ffuglen droseddol, rydym yn argymell: Rules for Perfect Murders gan Peter Swanson a The Seven Deaths of Evelyn Hardcastle gan Stuart Turton. Pwy sydd ddim yn hoffi dirgelwch llofruddiaeth traddodiadol? Mae’r ddau lyfr yn deyrnged dyfeisgar i’r genre ffuglen droseddol sy’n cadw’r darllenydd i ddyfalu hyd at y dudalen olaf un.

Hoffwn glywed gan aelodau ein llyfrgell! Beth yw’r llyfr mwyaf arswydus a ddarllenoch chi erioed? Rhannwch eich hoff nofelau brawychus efo ni ar y cyfryngau cymdeithasol! Dewch o hyd i ni ar Instagram a Facebook @LlyfrgelloeddAuraLibraries neu Twitter @LibFlintshire.

 
Back To Top