Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Taflu goleuni ar aelod: Kasper Wojtowicz

Dathlu aelodau ysbrydoledig o’r gampfa sydd wedi cyrraedd nodau ffitrwydd anhygoel.

Mae dychwelyd i’r gampfa ar ôl y cyfnodau clo wedi rhoi nerth newydd i Kasper Wojtowicz, aelod o gampfa Aura sydd wedi colli dros stôn a hanner mewn llai na mis. A dydi o ddim am roi’r gorau iddi eto, mae o’n parhau i wthio ei hun i fod mor “heini â phosib

Fe gawsom ni gyfle i sgwrsio’n ddiweddar gyda Kasper Wojtowicz, sy’n byw ym Magillt ac yn aelod o gampfa Aura, a soniodd am effaith gadarnhaol sesiynau campfa rheolaidd ar gyrraedd nodau ffitrwydd a chadw’r corff a’r meddwl yn iach.

Bob dydd yn ddi-fael mae Kasper yn mynd i’r gampfa ym Mhafiliwn Jade Jones i gadw “mor heini â phosib” ac mae o wedi dod yn wyneb cyfeillgar i dîm ffitrwydd a hamdden Aura yn y Fflint.

Fel llawer o bobl eraill roedd yn rhaid i Kasper feddwl am ffyrdd newydd i gadw’n ffit yn ystod y cyfnodau clo, ac felly byddai’n rhedeg milltiroedd bob dydd i gadw’n heini. Er ei fod yn mwynhau rhedeg, eglurodd: “Roedd yn anodd cadw’n heini a chadw fy lefelau ffitrwydd yn uchel. Cefais hefyd drafferth codi fy lefelau ffitrwydd yn ôl, ond dw i’n ymroddgar ac am ddal ati.

Mae’n ddiogel dweud bod dychwelyd i’r gampfa ar ôl y cyfnodau clo wedi adnewyddu ei ymrwymiad i iechyd a ffitrwydd gan ei fod wedi cael canlyniadau gwych a hynny mewn cyfnod byr iawn. Rhwng dechrau mis Hydref a dechrau mis Tachwedd 2021 collodd Kasper dros stôn a hanner o bwysau mewn llai na mis – diolch i waith caled, ymroddiad a chyfeiriad meddwl cadarnhaol.

Eglurodd Kasper ei fod yn falch o fod yn ôl ar y peiriant rhedeg yn y gampfa, yn ogystal â defnyddio cyfarpar cardio a phwysau eraill fel rhan o’i ymarferion ffitrwydd dyddiol. Mae’r peiriant rhedeg wedi dod yn ffefryn gan Kasper gan ei “helpu i ysgafnhau’r pwysau sydd arno“. Roedd yn canmol tîm Ffitrwydd Aura; o’r diwrnod cyntaf un roedd y tîm wrth law i “ddangos yr holl gyfarpar” ac yn “barod iawn eu cymwynas wedi hynny”.

Ar ran y tîm ffitrwydd ychwanegodd Lee Worrall, un o’r hyfforddwyr: “Hoffem longyfarch Kasper am ei ymroddiad anhygoel i ffitrwydd. Mae pawb yn y gampfa, o’r hyfforddwyr i’r aelodau eraill, wedi sylwi ar ei ymdrechion, yn enwedig pan fydd yn defnyddio’r peiriant rhedeg gan ei fod yn mynd amdani go iawn! Rydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddo ar ei daith ffitrwydd yn 2022 ac wedi hynny.”

Wrth rannu cyngor i unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan mewn her ffitrwydd newydd neu ymuno â champfa, dywedodd Kasper: “Y peth pwysicaf ydi mwynhau gwneud ymarfer corff yn y gampfa. Mae ymroddiad a chael y cyfeiriad meddwl cywir hefyd yn bwysig iawn, ac yn mynd i helpu unrhyw un sy’n ceisio cadw mor heini â phosib. Daliwch ati, daliwch i symud ac, os ydych chi’n debyg i mi, unwaith y byddwch chi wedi dechrau fydd ‘na ddim stop arnoch chi!

Hoffai tîm Aura ddiolch i Kasper am rannu ei stori ffitrwydd gyda ni a dymuno pob llwyddiant iddo ar ei daith ffitrwydd. Rydym ni’n gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i gyrraedd nodau ffitrwydd anhygoel!

Ydych chi’n aelod o gampfa Aura ac yn awyddus i rannu eich taith ffitrwydd er mwyn ysbrydoli eraill i gyrraedd eu nodau ffitrwydd? Cysylltwch â ni! Gadewch neges isod neu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Aura, neu anfonwch e-bost at: francesca.sciarrillo@aura.wales

Back To Top