Taflu goleuni ar aelod: Stori Tania Burbridge
Dathlu aelodau ysbrydoledig o’r gampfa sydd wedi cyflawni nodau ffitrwydd anhygoel.
Roedd ymuno a’r gampfa yn un o’r “penderfyniadau gorau” y mae Tania, Aelod y Mis, erioed wedi’i wneud, gan gyflawni “canlyniadau gwych” a lles meddyliol a chorfforol gwell.
Yn ddiweddar bu i ni siarad gydag aelod y gampfa, Tania Burbridge a gysylltodd i ddweud wrthym am ei thaith ffitrwydd, a sut mae ymuno â chymuned ffitrwydd cefnogol wedi bod.
Yn ddiweddar mae Tania wedi bod yn mynychu Ystafell Ffitrwydd yr Wyddgrug i weithio ar raglen ffitrwydd dynodedig ac yn cael sesiynau ffitrwydd personol gyda hyfforddwr, Abbie Miller.
Eglurodd Abbie: “Mae Tania yn cyrraedd gydag agwedd bositif bob amser ac yn fodlon rhoi cynnig ar unrhyw ymarfer. Yn ystod y misoedd diwethaf mae hi wedi canlyniadau da o ran cyfansoddiad ei chorff, ac mae’r tîm yn falch iawn o’r cynnydd mae hi wedi’i gyflawni. Rydym yn falch o gael dweud mai hi yw ein Haelod y Mis ar gyfer mis Hydref 2022.”
Dyma oedd gan Tania i’w ddweud am ei thaith ffitrwydd hyd yma: “Yn gynharach eleni, penderfynais ei bod yn amser i wneud rhywbeth ynghylch fy iechyd a ffitrwydd. Gyda hanes teuluol o bwysau gwaed uchel a phoenau bach oherwydd fy mod dros fy mhwysau, roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi wneud rhywbeth yn fuan. Fel dynes yn ei 40au a oedd yn newydd, roeddwn yn eithaf nerfus ac yn ofnus o’r syniad o ymuno â champfa. Doedd dim angen imi boeni, o’r eiliad y cysylltais gyda’r tîm yn Ystafell Ffitrwydd yr Wyddgrug, cefais groeso cynnes.
Rwy’n cael sesiynau ffitrwydd personol gydag Abbie yn rheolaidd; mae hi’n fy helpu i aros ar y trywydd iawn ac yn fy ngwthio pan rwyf angen. Rwyf wedi cael synnu bod mynd i’r gampfa gymaint wedi gwella fy lles yn gyffredinol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’n sicr yn un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed.”
Hoffai’r holl dîm Aura ddiolch i Tania am rannu ei phrofiad a dymuno’n dda iddi yn ei thaith ffitrwydd.
Ydych chi yn aelod o gampfa Aura, ac yn awyddus i rannu eich taith ffitrwydd er mwyn ysbrydoli eraill i gyflawni eu nodau ffitrwydd? Cysylltwch â ni! Gadewch neges isod neu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Aura, neu anfonwch e-bost at:francesca.sciarrillo@aura.wales