Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Telerau ac Amodau eich Aelodaeth Llyfrgell Aura

Drwy ymuno â’r llyfrgell, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn telerau ac amodau’r aelodaeth ac yn cytuno i gadw at y telerau hyn, am hyd ein contract.

Amodau Cyffredinol Aelodaeth

• Mae aelodaeth llyfrgell yn eich galluogi i ddefnyddio holl wasanaethau’r llyfrgell a ddarperir gan Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig a’n sefydliadau partner. Pan fyddwch wedi ymuno fel aelod llawn, byddwch yn cael cerdyn aelodaeth llyfrgell a PIN, ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
• Mae’n ofynnol i aelodau llyfrgell gyflwyno eu cerdyn aelodaeth llyfrgell pan fyddant yn benthyca eitemau ac yn defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell.
• Fel aelod llyfrgell, rydych yn gyfrifol am yr holl eitemau a fenthycir ar eich cerdyn llyfrgell, gan gynnwys unrhyw eitemau coll/wedi’u difrodi, y bydd angen talu amdanynt o bosib, ac am dalu am unrhyw ffioedd neu daliadau hwyr sydd ar eich cyfrif llyfrgell.
• Os caiff y cerdyn ei golli, rhaid rhoi gwybod i’r llyfrgell.
• Rydych yn gyfrifol am roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch manylion personol, er enghraifft, newid cyfeiriad.
• Rydych yn cadw’r hawl i derfynu eich cyfrif ar unrhyw adeg.
• Pe baech yn dymuno canslo eich aelodaeth llyfrgell, rhaid i chi ddychwelyd yr holl eitemau rydych wedi’u benthyca, a dychwelyd eich cerdyn aelodaeth i’w ganslo. Os oes unrhyw daliadau’n weddill ar eich cyfrif llyfrgell, bydd disgwyl i chi eu talu.

Mae Aura’n ymroddedig i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar i’n cwsmeriaid a chydweithwyr, sy’n gofyn am ymddygiad derbyniol gan bawb.

Gofynnwn fod pawb yn cael ei drin â pharch, ac na ddylai unrhyw un orfod ymdrin ag ymddygiad neu weithredoedd afresymol, ymosodol, brawychus, bychanol neu fygythiol.

Bydd methu â bodloni’r disgwyliadau hyn yn gallu arwain o bosibl at dynnu gwasanaethau’n ôl, cael gwared ar freintiau eich aelodaeth, a gofynnir i chi adael ein hadeilad.

Defnyddio Cyfrifiaduron y Llyfrgell a’r Rhyngrwyd

• I ddefnyddio ein cyfrifiaduron cyhoeddus, rhaid i chi fod yn aelod llawn o’r llyfrgell a dylai eich cerdyn llyfrgell a PIN fod gennych chi bob amser. Nid yw mynediad rhyngrwyd aelodau’r llyfrgell yn cael ei drosglwyddo i unrhyw unigolyn arall.
• Os ydych o dan 17 mlwydd oed, cewch ffurflen ganiatâd ar gyfer defnyddio’r rhyngrwyd, i’ch rhiant neu warcheidwad ei lofnodi.
• Nid yw plant o dan 11 oed yn cael defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell, oni bai eu bod gyda’u rhiant neu warcheidwad.
• Cyfrifoldeb y rhiant neu ofalwr yw monitro a rheoli defnydd o’r rhyngrwyd a chyfrifiaduron llyfrgell gan blant yn eu gofal. Os ydych yn pryderu am y cynnwys y gall eich plentyn gael mynediad ato drwy ddefnyddio cyfrifiadur llyfrgell, gofynnwn fod rhieni/gofalwyr yn dod gyda’u plant ar eu hymweliad â’r llyfrgell.
• Mae hidlydd ar fynediad i’r rhyngrwyd; ac mae’r holl fynediad yn cael ei gofnodi. Ni fydd cynnwys penodol unrhyw drafodyn yn cael ei fonitro oni bai bod amheuaeth o ddefnydd amhriodol.
• Gall ymyriadau anghyfreithlon â’r Polisi Defnydd Derbyniol gael eu cyfeirio ar gyfer camau gweithredu cyfreithiol neu i’r heddlu.
• Mae’n rhaid i chi gytuno i gydymffurfio â’n Polisi Defnydd Derbyniol er mwyn dechrau eich sesiwn gyfrifiadurol.
• Gall methu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn arwain at ohirio neu ganslo eich aelodaeth llyfrgell.

Gwneir y telerau ac amodau hyn o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.

Back To Top