Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Tonnau Lles yn Sesiynau Polo Dŵr Iau Aura

Mae polo dŵr, fel nofio, yn ffordd wych o gadw’n actif a helpu tuag at wella lefelau ffitrwydd.

Rydym yn falch o gynnal sesiynau polo dŵr wythnosol ym Mhafiliwn Jade Jones y Fflint, o ddydd Mawrth 15 Chwefror am 4:30-5:00pm. I fynychu’r sesiynau hyn, rhaid i blant iau fod ar lefel Ton 6 neu uwch.

Child in swimming pool

Dyma bum rheswm i ddod draw i sesiynau Polo Dŵr Iau Aura:
1. Mae’n weithgaredd cyflawn! Gall polo dŵr helpu tuag at gynnydd sylweddol mewn cryfder, cadernid a chyflymder, yn ogystal a gwell cydsymudiad, gogwydd a chydbwysedd
2. Mae gwaith tîm yn goruchafu! Mae’r ffaith ei fod yn weithgaredd tîm yn golygu fod polo dŵr yn ffordd wych i blant gymdeithasu a datblygu perthnasau cymdeithasol i mewn ac allan o’r pwll nofio
3. Mae’n ysbrydoli gwerthoedd lles ac iechyd! Mae polo dŵr yn ddisgyblaeth sy’n ysbrydoli penderfyniad: mae’n weithgaredd tîm hwyliog sy’n berffaith i annog gwerthoedd gweithio mewn tîm, ymroddiad, parch a chystadleuaeth iach
4. Ymarfer corff ar gyfer y corff cyfan! Yn yr un modd â nofio, mae polo dŵr yn defnyddio holl gyhyrau’r corff ac mae ymarfer corff yn y dŵr yn gwneud i’ch corff weithio’n galetach. O ganlyniad, mae 30 munud o nofio mewn pwll nofio yn werth 45 munud o’r un weithgaredd ar y tir. Mewn geiriau eraill, mae nofio yn gweithio’r corff i gyd!
5. Mae’n hwyl! Heb os, y peth gorau am polo dŵr yw ei fod yn gêm hwyliog a chyffrous sy’n annog gweithgaredd corfforol a lles meddyliol

Hefyd, mae polo dŵr yn weithgaredd gwych ar gyfer:
• Datblygu capasiti’r ysgyfaint i’r rhai sy’n hyfforddi ar gyfer cystadlu
• Llosgi calorïau: yn ystod ymarfer corff dwys 30 munud, gall gyfranogwyr losgi dros 200 o galorïau, mwy na dwbl yr hyn a gyflawnir wrth gerdded
• Cynyddu eich lefelau egni a hybu eich hwyliau!

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Wes Billings trwy e-bost: wes.billings@aura.wales
Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf ar ein holl weithgareddau nofio trwy ddilyn Nofio Aura Cymru ar Facebook ac Instagram: @aurawaleswim

Back To Top