Trac Beiciau Balans Newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Mae’n bleser gan Aura gyflwyno trac beiciau balans newydd yng nghefn Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Diben y trac yw creu man diogel i blant o bob oed gael hwyl a magu hyder yn reidio beic yn ddiogel. Rydym hefyd wedi prynu nifer o feiciau balans gydag arian gan Pwysau Iach: Cymru Iach.
Eglurodd Michelle Thomas, Rheolwr Cymunedau Bywiog Aura: “Mae’r prosiect beiciau balans hwn yn dod o fewn ein rhaglen 0-7 Oed, a gynhelir gan dîm Datblygu Chwaraeon Aura ac a ddarperir ym mhob un o’n canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd. Drwy ddefnyddio’r trac beiciau balans, bydd plant yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth am sut i reidio beic yn ddiogel, a hefyd yn datblygu sgil hwyliog sy’n hyrwyddo gallu corfforol, iechyd da a lles cyffredinol.
Bydd tîm Datblygu Chwaraeon Aura yn cynnig sesiynau am ddim mewn ysgolion ledled y sir, gan dargedu disgyblion y dosbarth meithrin, derbyn a Blwyddyn Un. Rhaid gwisgo helmed ac mae’r trac ar gael i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim. Gallwn hefyd ddarparu offer diogelwch, hyfforddiant a beiciau wedi’u haddasu’n arbennig wrth ymweld ag ysgolion.”
Gwyliwch y fideo hwn gan British Cycling sy’n canolbwyntio ar sut i ddysgu plentyn i reidio beic.
Mae’r parc sglefrio dan do yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy hefyd yn cynnig sesiynau beiciau balans 3 gwaith yr wythnos. I gael rhagor o wybodaeth am y trac beiciau balans newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, cysylltwch â Michelle: michelle.thomas@aura.wales