Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiad

Wythnos Llyfrgelloedd 2022!

Dewch i ddathlu dysgu gydol oes gydag Aura yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd: 3 – 9 Hydref 2022

Mae Wythnos y Llyfrgelloedd, a drefnir gan CILIP, y gymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth, ac a gefnogir gan bartneriaid sy’n cynnwys yr Asiantaeth Ddarllen, Libraries Connected a’r School Libraries Association, yn ddathliad wythnos o hyd o lyfrgelloedd sy’n annwyl i’r genedl. Mae thema eleni, Dal Ati i Ddysgu, yn dathlu’r rhan ganolog y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gefnogi dysgu gydol oes. Ymunwch â sgwrs #WythnosLlyfrgelloedd i ddysgu mwy yma.

O fabanod a phlant ifanc i oedolion o bob oed, rydym yn cynnig llawer o wahanol gyfleoedd dysgu yn ein llyfrgelloedd. Mae gennym sesiynau ac adnoddau i bawb, gan gynnwys y canlynol:

• Sesiynau Babanod a Llyfrau ac Amser Rhigwm
• Cyrsiau Dysgu Cymunedol Oedolion am ddim i bobl dros 19 oed
• Grwpiau cymdeithasol a grwpiau darllen Cymraeg a Saesneg
• Sesiynau Hanes Teuluol
• Cwrs hanfodion y rhyngrwyd ‘Learn My Way’ sy’n para 6 wythnos

Byddwn yn rhannu llawer o wybodaeth ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd, am y gwahanol gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn eich llyfrgell leol ac ar lein. Ewch draw i’ch llyfrgell leol neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: mae croeso i bawb a gallwch ymuno â’r llyfrgell am ddim.

Chwiliwch amdanom ni ar y cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy am yr holl wasanaethau a gweithgareddau y mae Aura yn eu cynnig. Gall ymwelwyr newydd ddechrau cymryd rhan heddiw drwy gofrestru fel aelod o’r llyfrgell ar lein, yma.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf drwy ein dilyn ni ar Facebook: @LlyfrgelloeddAuraLibraries, Twitter: @LibFlintshire ac Instagram: @llyfrgelloeddauralibraries.

 

Back To Top