Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Y cyfan sydd arnoch angen i chi ei wybod am ‘Aura Elît’: Pecyn Noddi Athletwyr

Aura Elît: pecyn noddi cyffrous  i athletwyr lleol

Nod Aura Elît yw bod o fudd i athletwyr drwy weithio gyda’u clybiau a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol, a chefnogi eu hanghenion unigol.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy e-bostio: auraelite@aura.wales


Meini Prawf Dethol Nawdd Athletwyr Blynyddol ‘Aura Elît’

  • Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer nawdd gyda Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, rhaid i Athletwyr fod rhwng 11 i 17 oed ar ddyddiad y cais a bydd angen i chi ddarparu cynnig nawdd athletwyr strwythuredig sydd angen cynnwys y manylion canlynol;
  • Manylion ynghylch sut fydd Aura fel cwmni a brand yn elwa o unrhyw nawdd posib. H.y. cynnwys cyfryngau gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cystadlaethau a digwyddiadau.
  • Esboniad o sut y byddwch yn dilyn pum gwerth craidd Aura
  • Trosolwg cryno a phroffil athletwr (dywedwch ychydig wrthym amdanoch a’ch perthynas bresennol gydag Aura)
  • Rhestr o’r holl gystadlaethau a gymerwyd rhan ynddynt y tymor hwn (neu eich tymor llawn diwethaf) gan gynnwys rhestr fanwl, o’r canlyniadau, gan ddangos y maes llawn a’r canlyniadau, o ran categori oedran. Rydym hefyd angen gwybod nifer yr athletwyr yn y categori, neu eich lefel o berfformiad os yn rhan o strwythur cynghrair a thîm
  • Rhestr o ddyheadau’r dyfodol yn y chwaraeon a bywyd yn gyffredinol
  • Manylion safleoedd byd, cenedlaethol neu ranbarthol cyfredol os yw’n berthnasol.
  • Llythyr cefnogi gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol eich chwaraeon yn cymeradwyo’r cais ac yn amlinellu’r rhesymau pam, a pha gyfleusterau yr ystyrir yn berthnasol fel rhan o’r cynllun hyfforddi unigol a/neu adroddiad hyfforddwr, yn nodi ymrwymiad datblygiad a hyfforddiant cyfredol
  • Manylion gofynion hyfforddiant o ran Aura, gan gynnwys mynediad i unrhyw hyfforddwyr ffitrwydd a allai gefnogi eich siwrnai
  • Rhestr o noddwyr eraill ac ymrwymiadau iddynt
  • Rhestr gryno o’r holl ddatganiadau i’r wasg o’r ddwy flynedd ddiwethaf, ynghyd â’r dolenni perthnasol i’r papurau newydd, cylchgronau neu wefannau ble ymddangosodd yr erthyglau.
  • Trosolwg o bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol a gwe (gan gynnwys nifer y dilynwyr ar Instagram, Facebook, Twitter etc. ac ymweliadau â gwefannau)

Rydym yn edrych am athletwyr gyda’r priodoleddau canlynol:
a. A fydd/sydd yn llysgennad da i Aura a’n cefnogaeth athletwyr dawnus ac ysbrydoli eraill i gyflawni ar bob lefel
b. Sy’n ymddwyn mewn modd proffesiynol ym mhob sesiwn hyfforddiant a chystadleuaeth (rydym yn disgwyl ymddygiad proffesiynol tuag at staff, gwesteion a chyd gystadleuwyr gan athletwyr a rhieni)
c. Sydd wedi ymrwymo i’w hyfforddiant – yn arbennig yma yn Aura. Byddwn yn edrych am athletwyr sy’n mynychu sesiynau hyfforddiant yn aml yma yn Aura a hefyd y rhai a fydd yn parhau i wneud hynny.
d. Sydd â phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol/gwe da ac a fydd yn ymgysylltu ag Aura trwy gyfryngau cymdeithasol ac ymrwymiadau marchnata eraill.
e. Sydd â gallu technegol o safon uchel a dilyn cynlluniau hyfforddi yn ôl cyfarwyddyd
f. Sydd ag adroddiadau hyfforddwyr cadarnhaol a blaengar – yn amlygu potensial y dyfodol a chryfderau a gwendidau hyfforddiant
g. Sydd â dyhead a’r awydd i ddatblygu – a welir trwy gynlluniau hyfforddiant a chystadleuaeth
h. Sydd â chanlyniadau da a safle/potensial – i’r athletwyr hynny sydd eisoes yn cystadlu byddem hefyd yn croesawu golygiad/fideos y tymor fel rhan o’r portffolio.

Rhaid anfon yr holl geisiadau ar e-bost i auraelite@aura.wales erbyn 1 Rhagfyr 2023

 

Back To Top