Arweinwyr Gwobr Dug Caeredin yn ymweld ag Aura Cymru
Daeth uwch arweinwyr Gwobr Dug Caeredin yn y DU a Chymru i ymweld â Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ddydd Iau 19 Hydref i glywed gan dîm Aura Cymru am sut mae’r rhaglen yn cael ei weithredu yn Sir y Fflint a’i effaith ar fywydau pobl ifanc.
Mae Aura Cymru yn darparu Darpariaeth Addysg Amgen ar gyfer pobl ifanc ledled Sir y Fflint, a Gwobr Dug Caeredin yw un modd y mae pobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd, i ffynnu, a’u rhoi ar y llwybr cywir i sicrhau eu bod yn cyflawni eu llawn botensial yn eu bywydau.
Ers 2021, mae Aura Cymru wedi cofrestru dros 100 o bobl ifanc ar gyfer gwobr Dug Caeredin, ac mae’r rhaglen yn parhau i ddatblygu a thyfu. Mae cyllid grant wedi cefnogi lleoliadau ar y cynllun ar gyfer pobl ifanc dan anfantais ac yn bwysicaf oll, wedi darparu pecyn alldaith i’w galluogi i barhau i ddefnyddio eu sgiliau newydd.
Roedd yr ymweliad ar 19 Hydref yn galluogi i uwch arweinwyr Gwobr Dug Caeredin i gyfarfod â chyfranogwyr Dug Caeredin a gweld buddion ac effaith y cyllid a’r Wobr ar y bobl ifanc.
Dywedodd Rebecca Kennelly MBE, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Gwobr Dug Caeredin yn y DU: “Roedd yn wych cwrdd â’r tîm ymroddedig yn Aura Cymru. Mae eu hymagwedd gynhwysol o ran darparu Gwobr Dug Caeredin yn sicrhau bod pobl ifanc sydd wedi profi heriau yn cael cyfle i gymryd rhan a chyflawni. Mae’r tîm yn fedrus o ran meithrin ymddiriedaeth, a hyder sydd, gyda Gwobr Dug Caeredin, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer yr unigolion ifanc. Roedd yn wych gweld sut mae cymryd rhan wedi agor drysau ar gyfer y bobl ifanc hyn sydd wedi bod ar yr ymylon yn flaenorol, gan eu cynorthwyo i adennill lle cadarnhaol yn eu cymunedau ac edrych ymlaen yn hyderus tuag at y dyfodol.”
Dywedodd Sara Mogel OBE, Cadeirydd Aura Cymru: “Roedd yn bleser croesawu ymwelwyr o gynllun Gwobr Dug Caeredin a thrafod defnydd arloesol Aura o’r wobr mewn perthynas â phobl ifanc sy’n derbyn darpariaeth addysg amgen. Mae’r Wobr yn ein cefnogi i roi sgiliau i bobl ifanc, sgiliau y maent eu hangen i lwyddo ac yn magu eu hunan-hyder yn eu galluoedd eu hunain. Dros y tair blynedd ers i Aura gyflwyno darpariaeth cwricwlwm amgen, mae cyfradd uchel o gyfranogwyr wedi derbyn cyflogaeth neu barhau â’u haddysg ac mae Gwobrau Dug Caeredin wedi cyfrannu’n helaeth at y llwyddiannau hyn.”
Dywedodd Sian Williams, Rheolwr Datblygu Hamdden Aura Cymru: “Rydym yn hynod falch o’r gwasanaeth hwn gan Aura. Mae’r gwaith y mae’r timau Cymunedau Bywiog a Darpariaeth Amgen yn ei wneud yn anhygoel, gan roi cyfleoedd yn lleol a chymwysterau ystyrlon i bobl ifanc er mwyn iddynt allu llwyddo yn y dyfodol. Mae Aura ei hun wedi cyflogi rhai o gyn-raddedigion y rhaglen! Rydym yn edrych ymlaen at weithio mwy gydag ysgolion lleol Sir y Fflint, pobl ifanc a darparwyr cymwysterau fel Gwobr Dug Caeredin yn y dyfodol, gan gynorthwyo Aura i gyflawni ei weledigaeth o wella bywydau drwy iechyd a lles.”
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Dug Caeredin Aura, cysylltwch â christopher.moss@aura.wales
Llun (o’r chwith i’r dde):
Rebecca Kennelly MBE, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau’r DU o Wobr Dug Caeredin, Sian Williams, Rheolwr Datblygu Hamdden Aura, Chris Moss, Swyddog Darpariaeth Addysg Amgen Aura, Mike Welch, Prif Weithredwr Aura, Katrina Long, Swyddog Gweithredu tîm Dug Caeredin Cymru, Stephanie Price, Cyfarwyddwr tîm Dug Caeredin Cymru, a Sara Mogel OBE, Cadeirydd Aura.