Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml

Yr Arena Iâ ar fin agor yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Bydd yr wythnosau nesaf yn rhai cyffrous iawn i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy gan y bydd y ganolfan sglefrio yn agor yr hydref hwn.

Bydd y gwaith adfer yn cyflymu dros yr wythnosau nesaf wrth i ni baratoi i groesawu’r gymuned leol yn ôl, ac ymwelwyr o bell hefyd. Fe wnaethom lansio logo newydd yn ddiweddar ar gyfer Arena Iâ Glannau Dyfrdwy, ynghyd â thudalen ar Facebook ac Instagram.

Dywedodd llefarydd ar ran Aura: “Rydym yn obeithiol y bydd y gwaith adfer yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus dros y misoedd nesaf ac rydym wedi cyffroi i weld yr arena iâ yn dychwelyd i’w phwrpas gwreiddiol. Er na allwn rannu union ddyddiad yr ailagor ar hyn o bryd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael croesawu ein cwsmeriaid sglefrio iâ ffyddlon yn ôl yn y dyfodol agos.”

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf, cipolwg o’r newidiadau a newyddion am yr Arena Iâ ar wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Aura. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhan yn ein cystadleuaeth ailagor unigryw i gael cyfle i ennill blwyddyn o sglefrio cyhoeddus am ddim, gwersi sglefrio am 6 mis a thaleb o £50 yn Siop Sglefrio Al yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

Gallwch ddod o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol, yma: Twitter (@aura_wales), Facebook (@walesaura / @DeesideIceArena), ac Instagram (@aura.wales / @deesideicearena)

Back To Top